Tudalen:Llyfr Owen.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A llawer o bethau eraill a ddychmygasant. Yn wir, dychymyg oedd y cwbl.

Ond credodd miloedd o bobl mai gwir oedd, a bu effaith y gred ar lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Canodd Ceiriog gân, ar alaw Difyrrwch y Brenin, yn darlunio Madog a'i wŷr yn myned i'r môr:

Wele'n cychwyn dair ar ddeg
O longau bach ar fore teg.

Yr oedd "Madog" Robert Southey yn boblogaidd iawn. Ac apeliodd "Ffarwel Madog Dywysog" Mrs. Hemans at genedl o forwyr, sef y Saeson.

2. Ymysg y rhai a gredodd chwedl y Madogwyr yr oedd Cymro ieuanc brwdfrydig a gwladgarol o'r Waen Fawr yn Arfon, o'r enw John Evans. Penderfynodd fynd ar daith anturus i chwilio am ei gydwladwyr, rhag nad oeddynt yn cofio yn glir am yr Iesu. Y mae rhywbeth yn arwrol yn hanes y cenhadwr ieuanc. Crwydrodd fil a chwe chant o filltiroedd i chwilio am ei gydwladwyr. Ond gorfu iddo droi i gaban yn rhywle ar lan Misŵri. dan dwymyn boeth, ac yno y bu farw. Canodd Ceiriog gân iddo ar alaw "Llwyn Onn":

Mae'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymro yn flin ar ei daith :
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Misŵri,
I chwilio am Iwyth a lefarai ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloywon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio drwy'i hun;
Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon,
"Pe le mae'r hen Gymry, fy mhobl fy hun '!