Tudalen:Llyfr Owen.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond hyfryd iawn fyddai eu byd pan fyddai'n heddwch a haf. Caent ddigon o gig pan ddeuai'r helwyr adref o hela hyd y paith eang, a chodid digonedd o bysgod o'r afonydd gloywon. Ac ar fin nos haf byddent wrth eu bodd yn chwarae o amgylch y wigwam, sef y babell y cysgent ynddi. Nid oedd ysgolion yn eu mysg, nac athrawon nac athrawesau. Ond eisteddent, yn gymysg â'r cŵn, wrth draed y bobl mewn oed a gwrandawent arnynt yn adrodd ystraeon. Ac yr oedd rhai, yn enwedig y gwŷr doeth (y dewiniaid) a'r gwŷr meddyginiaeth (eu doctoriaid) yn medru llawer iawn.

Pan oedd yr haul yn mynd i lawr ryw hafnos, gofynnodd un o'r plant beth oedd yr haul, a pham yr oedd yn boeth ac yn goch, a'r lleuad mor welw a phrudd. A dechreuodd rhyw hen heliwr esbonio.

3. Yn yr hen amser, meddai, cyn i'n tadau ni ddod i'r wlad hon, nid oedd yma ond deg o ddynion, brodyr cryfion, nerthol, ac un eneth eiddil, ofnus. Bu farw naw o'r brodyr y naill ar ôl y llall ac felly nid oedd yn aros ond yr eneth ac un dyn, a hwnnw yn ddyn nerthol a chreulon. Gofynnodd y dyn a ddeuai'r eneth yn wraig iddo ef. Dywedai hithau na ddeuai, oherwydd yr oedd yn ddrwg ei dymer, yn ddiog, yn gas, ac ni feddyliai am neb ond amdano'i hun. A phenderfynodd hi ddianc y noson honno, er mwyn bod o'i gyrraedd. Rhedai'n gyflym wrth olau leuad, a chlywai ef yn rhedeg ar ei hôl, gan waeddi ar ei gŵn. Gwelai hithau dwll