Tudalen:Llyfr Owen.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y ddaear; ac er ei fod yn edrych yn ddu ac yn ddwfn, llithrodd iddo am ei bywyd. A syrthio, a syrthio a wnaeth, am oriau lawer, yn y tywyllwch.

Pan welodd oleuni, nid wrth ei phen y gwelai ef, ond i lawr dan ei thraed. Yr oedd wedi syrthio trwy'r ddaear i'r ochr arall. Ac fe'i cafodd ei hun mewn byd hyfryd,—afonydd llawn o bysgod, heldir llawn o geirw, a thywydd hyfryd, cynnes. Draw gwelai ŵr tal, myfyriol, yn pysgota. A gwyddai ar ei olwg mai dewin oedd, un yn gwybod meddwl yr Ysbryd Mawr. Erfyniodd arno ei hamddiffyn rhag yr hwn a edrychai am dani, ond bu'n hir iawn cyn cymryd sylw o honni. O'r diwedd, dywedodd wrthi'n swta : "Cei fynd i fyny i dramwyo'r nefoedd; ac os teithi di yn ffyddlon, fel y gweli dy hen gartref bob mis, ni fedr fyth dy ddal."

Aeth yr erlidiwr heibio'r twll yn y ddaear heb feddwl fod y ferch wedi disgyn iddo, ac aeth yn bell oddiyno. Ond yr oedd y cŵn yn dal i gyfarth lle yr aeth hi i lawr. O'r diwedd, mentrodd yntau i lawr, a syrthiodd trwy'r ddaear i'r ochr draw. Gwelodd yntau y dewin yn pysgota. Holai ef a welodd wraig deg, ond gwelw a blinedig, yn dianc fel pe am ei bywyd. Am oriau ni chymerai'r dewin ddim sylw o honno. Ond o'r diwedd, dywedodd : "Cei fynd i fyny i'r wybren i redeg ar ei hôl. Ond, er i ti redeg ar ei hôl am byth, a rhedeg nes bydd dy gorff ar dân, ni fedri ei dal."