Tudalen:Llyfr Owen.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. A dyna pam y mae plant yn hoffi gweld y dydd yn hir, ac yn gwrthod mynd i'w gwelyau, er mwyn gwneud taith yr Haul yn hir. Ond pan welant mor brudd a gwelw yw'r Lleuad, y maent am i'r nos fod yn fer, rhag ofni'r ffoadures brydferth druan, flino'n rhedeg, a gadael i'r Haul ei dal.

XII

Y DYN COCH

1. Y DYN coch, neu'r croengoch yw enw'r Americanwr ar y brodorion a gyfrifid wrth y miliynau gan mlynedd yn ôl, ond sydd erbyn hyn yn prysur ddiflannu o flaen gwareiddiad.

Bu'n ddychryn i'r ymfudwr, llosgai ei gaban, a llofruddiai ei wraig a'i blant. Oherwydd gwelodd yr andwyai y dyn gwyn ei wlad. Ciliai yr hydd a'r ych gwyllt, ac ni ddeuai'r eog i fyny'r afonydd fel cynt. A gorfu i'r dyn coch gilio, yn raddol i'r gorllewin, lle y gallai gael helwriaeth. Oherwydd oni byddai helwriaeth, deuai newyn yn y gaeaf, ac yr oedd newyn yn fwy creulon ac yn fwy angheuol hyd yn oed na'r dyn gwyn.

2. Pe delech at bebyll y dynion coch yn yr haf, ar lan afon neu ar fin coedwig, tybiech eu bod yn ddigon hapus. Gwelech ystyr eu henwau, oherwydd coch, yn ymylu ar gochddu, yw lliw