Tudalen:Llyfr Owen.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu crwyn. Y mae'r dynion yn dal ac yn syth, fel y buasech yn disgwyl i helwyr cedyrn fod. Y mae golwg drymaidd ar eu hwynebau, ac y mae eu gwallt yn hir, a syth, a du fel yr huddygl. Ond y mae llawer ohonynt yn tynnu eu gwallt o'r gwraidd bob yn un, gan adael rhyw un topyn ar y corun. Y maent yn hoff o addurniadau, megis cregin tlysion. Y mae'r merched yn brydferth pan yn ieuanc, a byddai sôn hyd ymhell am y rhai eithriadol brydweddol ond byddai caledwaith eu bywyd yn eu hagru a'u camu yn gynnar. Gwaith y dyn oedd rhyfela a hela yn unig; y wraig oedd yn ymorol am danwydd, yn edrych ar ôl y plant, ac yn cario'r babell.

Ond ysgafn a bregus iawn oedd y babell. Nid oedd ynddi ddodrefn ond ychydig offerynnau coginio, a chrwyn eirth i orwedd arnynt y nos. Buan y codid y babell fel y crwydrai'r llwyth o 'heldir i heldir.

Pe delech i'r gwersyll ar hwyrnos o haf, caech y bobl ieuainc a'r plant yn dawnsio'n nwyfus. Ond os byddai'r fwyell yn mynd o babell i babell. i ddweud bod rhyfel wedi ei gyhoeddi, yna gwelech y crochan rhyfel ar y tân yn y gwersyll, a chlywech bawb yn canu caneuon rhyfel o'i gylch.

3. Y mae'r Indiaid hyn yn garedig wrth bobl ddieithr, ac yn lletygar iawn; os bydd ganddynt fwyd, rhoddant ef yn hael. Ond, wedi brwydr, yr oeddynt yn greulon iawn wrth eu carcharorion, a hoffent weled eu dirdynnu.