Yr oedd y dyn coch yn fuan, yn gyflym ei lygad a'i glust a'i droed.
Cerddai yn wisgi am ddyddiau; ac nid oedd raid iddo ond wrth ei gyllell a'i garreg dân ar ei siwrneiau hirfaith. Ai o un lle i le pell arall ar linell union heb fethu. Yr oedd ei allu i ddilyn ôl troed dyn neu anifail yn hynod iawn.
Gwyddai lawer iawn am y tymhorau ac am anifeiliaid; ac ar y wybodaeth honno y dibynnai, heb ysgol na map nac almanac. Ond byddai'r gwŷr doethineb yn dysgu'r ieuanc i ymddwyn yn ddewr, a dioddef caledfyd. Byddent hefyd yn feddygon; a dywedent y medrent godi peth ar y llen a guddiai lwybr dyn wedi iddo fynd i'r bedd.
4. Byddai'r dyn coch farw fel y bu byw. Wynebai frenin braw yn dawel a hamddenol. Rhoddai gynghorion i'w blant, ac yna ymadawai at ei hen gyfeillion mewn brwydr a helfa, ac mewn tiroedd hela gwell. Yna, wedi ei farw, gosodid ef i eistedd yn ei babell, a'i arfau yn ei law. A byddai pawb yn gwneud araith o ffarwel iddo. Yna cleddid ef, a chyneuid tân ar ei fedd bedair noson, oherwydd dyna'r amser a gymer iddo deithio i'r heldiroedd hapus draw.
Cred y dynion coch fod Ysbryd Mawr yn bod; ond aneglur ac ansicr oedd eu syniadau. Erbyn hyn, y mae'n debyg eu bod wedi colli llawer o'u hen syniadau. Ond casglwyd llawer o'u hystraeon, a theifl y rhai hynny lawer o oleuni ar eu hanes.