Tudalen:Llyfr Owen.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV

Y PEN BYW

1. YSTORI Indiaid gogledd y Mynyddoedd Creigiog ydyw hon.

Yr oedd brawd a chwaer yn byw mewn caban unig ar fin y goedwig. A daeth amser y bachgen i farw. Ac eb ef: " Fy chwaer, y mae angau wedi cydio ynof, ac y mae yn prysur wenwyno fy nghorff. Cyn iddo ddod at fy mhen, tor ef ymaith â blaen fy mhicell a dyro ef yng ngheg sach, ac yn y sach dyro fy mhaent a'm plu prydferth a'm haddurniadau, a rho fy mwa a'm cawell saethau gerllaw. A chei weled y bydd y pen byw." Ac felly y gwnaeth y chwaer.

2. Ymhell oddiyno yr oedd llwyth o Indiaid yn paratoi i ryfel. A dewiswyd deuddeg brawd dewr i fynd o flaen y lleill. Yr oedd y brawd hynaf wedi gweled mewn breuddwydion nos beth a ddigwyddai iddynt,-arth anferth yn rhedeg ar eu hôl, a'r gelyn yn cau o'u cwmpas. Ond, trwy gymorth swynwyr medrus, yr oeddynt i ennill yn y diwedd.

Pan wawriodd y bore cyntaf ar eu taith, gwelent rywbeth du mawr ar y mynydd rhyngddynt a'r golau, yn cysgu. Arth anferth oedd. Cyn iddynt ei lladd deffrodd, ac edrychodd arnynt â llygaid llidiog. Cychwynnodd ar eu hol, a rhedasant hwythau am eu bywyd.