Tudalen:Llyfr Owen.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pen byw, syrthiodd yn ôl mewn arswyd, a buan y lladdodd y deuddeg brawd hi. Yna, wedi cael ymborth a gorffwys, gyda'r nos aethant tua thir eu gelynion. Yn y nos clywodd y chwaer floeddiadau anwar brwydr. Yna bu distawrwydd. " Dos a mi borc fory i'r fan yr oeddynt yn ymladd heno," ebr y pen, "ac un o'm saethau gyda thi, a dal hi wrth ben y meirw."

Aethant yn y bore. Beth welent yno ond cyrff meirwon y deuddeg brawd. Ond, pan ddaliodd y chwaer y bicell wrth eu pen, codasant oll i fyny'n fyw.

" Yn awr," ebr y pen, " ewch â mi at fy nghorf. Y mae erbyn hyn wedi ei buro, a'r gwenwyn wedi mynd ohono ym mhridd y ddaear." Aethant ag ef, a'r munud y cyffyrddodd y pen â'r corff, wele'r gŵr ieuanc yn sefyll ar ei draed, yn gan harddach nag yr oedd pan wnaeth i'w chwaer dorri ei ben. Ac eb ef wrth y deuddeg : Yn awr yr ydym oll wedi profi angau. Ni fyddwn marw byth mwy."

Onid yw'n ystori ryfedd? Bu miloedd ar filoedd o blant bach cochion, mewn coedwigoedd pell, wrth ddrws eu pabell, yn gwrando arni.