Tudalen:Llyfr Owen.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XV

Y MÔR-FORYNION

1. Y PETH yw'r tylwyth teg i blant y mynyddoedd a'r llynnoedd, hynny ydyw'r môr- forynion i blant glannau'r môr. Gŵyr y bugail bach am dylwyth teg, sy'n chwarae mig ag ef yn y niwl, a all ei wneud yn berchennog llawer o ddefaid ei hun. A gŵyr y morwr bach am fôr-forynion tlysion a all ei groesawu ac achub ei fywyd pan â ei long yn ddrylliau ar y graig yn y môr.

Bu plant dwy fil o flynyddoedd yn gwrando ystraeon am y môr-forynion, ac yn eu credu yn ffyddiog. Yr oedd sôn amdanynt yn amser y Rhufeiniwr Plinius. Ceir hanes eu dofi ar arfordir- oedd yr Alban a'r Iseldiroedd, ac y mae llawer o hanesion rhyfedd amdanynt o'r gwledydd hynny. Fel rheol dywedir eu bod o'u canol i fyny yn forynion prydferth, ond yn bysgod o'u canol i'w traed. Symudent yn afrosgo ar y tir, ond yn hoyw ysgafn ar y môr. Yr oedd eu prydferthwch yn bennaf yn eu llygaid mawr, gloyw, a thyner. Mewn ambell deulu cedwid hwy fel cydymaith difyr. Ond ni chlywais erioed am neb wedi medru eu dysgu i siarad.