Tudalen:Llyfr Owen.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1187—gellwch gyfrif mor bell yn ôl oedd hynny-daliwyd un ar lannau dwyreiniol Lloegr. Bu ymysg dynion am chwe mis, ac nid oedd ddim ond diffyg siarad yn ei gwneud yn annhebyg i'r merched tewion glandeg a ddeuai i edrych arni. Ond, ryw ddydd, diangodd i'r môr, ac ni welwyd mohoni mwy.

2. Gwyddoch fod llawer o'r Iseldiroedd yn is na'r môr, a rhaid gofalu am y gwarchgloddiau sy'n cadw'r tonnau rhag carlamu dros y caeau gwair a'r gerddi ffrwythlon. Yn 1450, torrodd y môr i un o ardaloedd Ffrisland, ac aeth llawer o'r porfeydd dan ddwfr. A byddai raid i'r merched fynd mewn cwch i odro'r gwartheg. Ond fel y cyfannid y dawdd a dorrwyd gan y môr. graddol sychai'r tir yn ei ôl. Rhyw fin nos, pan âi'r merched i odro, gwelent o'r cwch fôr-forwyn yn y llaid, ac er pob ymdrech, yn methu dod o honno. Codasant hi i'r cwch, aethant â hi adref i Edam, rhoddasant ddillad geneth am dani. Dysgodd fwyta. dysgodd nyddu, a dysgodd ryw lun o grefydd, oherwydd gostyngai ei phen pan welai lun croes. Ond ni fedrent ei dysgu i siarad, a byddai yr ysfa am fynd i'r môr yn gryf arni wedi byw am flynyddoedd ar y tir.

A dywedir llawer ystori debyg o wahanol foroedd y byd. Ond yr wyf yn methu eu credu, am nad oes neb yn honni ei fod wedi gweled môr-forwyn yn ddiweddar.