Tudalen:Llyfr Owen.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dioddef na chosb wedyn, na chof am danoch gan neb. A ydych chwi'n foddlon i'r amod? " Edrychodd y bechgyn i gyd i lawr yn brudd a meddylgar. O'r diwedd gofynnais :

"A ydych yn foddlon i gael chwarae a gwneud y peth a fynnoch am dri chan mlynedd heb eich galw i gyfrif, yn lle bod mewn gwaith a phoen am ryw ugain neu ddeugain mlynedd, ac yna marw am byth? "

Ac atebodd y bechgyn i gyd gyda 'i gilydd, yn ddwys a phendant, er nad oedd eu gwefusau ond prin symud: " Nac ydym."

2. Yr oedd môr-forwyn fach unwaith yn byw ac yn chwarae'n hapus yng ngwaelod y môr. Y mae'r môr-forynion yn brydferth ryfeddol, ac yn hynaws a charedig bob un. Ond y maent yn annhebyg i'r plant bach tlysaf mewn un peth. Nid oes ganddynt enaid. Cânt nofio'n hapus trwy'r moroedd am dri chan mlynedd, ac yna y mae pob un yn marw, fel bwrlwm ar y dŵr.

Ond yr oedd un fôr-forwyn fach wedi clywed am blant y ddaear, ac wedi gweled rhai ohonynt yn chwarae ar y tywod pan gododd ei phen i edrych o grib y don. A chlywodd hwy'n sôn am enaid, ac am fyw byth.

A daeth rhyw awydd angerddol am gael enaid ar y fôr-forwyn fach. Aeth at y fôr-forwyn hynaf, oedd bron â byw dri chan mlynedd, a gofynnodd iddi a gâi fynd i'r ddaear, i chwarae gyda'r plant, a chael enaid fel hwythau.