"Y fach wirion," ebr yr hen fôr-forwyn, " ni wyddost beth yr wyt yn ei ofyn. Y mae bechgyn ar y ddaear, ac y maent yn greulon iawn wrth enethod bach."
Ond yr oedd yr eneth yn daer iawn am gael ei chais, ac o'r diwedd dywedodd yr hen fôr-forwyn :
"Os rhaid, mae ffordd i ti fynd at blant y ddaear. Ac y mae ffordd i ti gael enaid. Ond gad i mi dy gynghori'n ddwys unwaith eto cyn yr â'n rhy ddiweddar,—paid â cheisio un. Ni ddaw â dim ond poen a gwae i ti."
Ond cynyddu a wnâi taerni'r fechan wedi dywed bod modd iddi gael enaid, ac o'r diwedd cafodd yr hanes hwn :
"Os ei di i'r ddaear, rhaid iti ddioddef llawer iawn. Annhebyg y cei enaid byth. Oherwydd rhaid i ti weld tywysog da a hardd un o wŷr gorau'r ddaear, a'i briodi. A pha dywysog a hoffai ac a briodai beth fach ddistadl fel tydi? A beth pe gwyddai mai môr-forwyn wyt? A pheth arall hefyd. Oni chei dywysog felly yn ŵr i ti, a thithau wedi ei hoffi, byddi farw noson ei briodas cyn toriad gwawr; ac ni chei ddod yn ôl i'r môr. Nid tri chan mlynedd fydd dy oes di felly, ond rhyw un ar hugain. Felly, anghofia dy ddymuniad ffôl.
3. Ond mynd a fynnai hi, yr oedd rhyw swyn mewn enaid iddi. Erbyn iddi ei chael ei hun ar y tir sych, yr oedd pawb yn synnu at ei thlysni deniadol. A bu yn ffodus iawn hefyd. Yr oedd tywysog hardd a da yn yr ardal y daeth iddi, a