Tudalen:Llyfr Owen.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hofiodd hi ef er pan welodd ef gyntaf. A rhyw ddydd hi welai'r tywysog mewn enbydrwydd am ei fywyd, bron â boddi yn y môr. Ymsaethodd ato, gan nofio'n ysgafn, a daliodd ei ben uwchlaw'r tonnau nes y daeth llong i'w waredu. Gwelodd y tywysog wyneb hawddgar pur yr enethig, ac fel diolch iddi am achub ei fywyd, rhoddodd le iddi fel morwyn yn llys y brenin. Ac yno y bu am flynyddoedd, a phawb yn sylwi ar ei phrydferthwch hawddgar. A llawer gair mwyn a ddywedodd y tywysog wrth yr eneth ddiwyd a da, gan ddangos ei barch iddi beunydd.

O flwyddyn i flwyddyn aeth yr amser heibio. A bron heb iddi feddwl, yr oedd y fôr-forwyn ar fin ei hun ar hugain oed. A rhyw fore, a hi gyda'r morynion eraill yng nghegin fawr y llys, daeth gorchymyn i baratoi gwledd fawr. Oherwydd yr oedd y tywysog yn priodi tywysoges o wlad gyfagos, ac yn dod â'i ddyweddi adref. A phan glywodd y fôr-forwyn hynny, cofiodd ei thynged. Ni allai briodi tywysog byth, a nos priodas hwn—tywysog oedd ymhell o'i chyrraedd—oedd nos ei hugeinfed flwydd ar hugain. Ni chai enaid, a byddai farw am byth, fel ewyn yn disgyn i'r dŵr.

4. Er ei bod wedi ei gadael i chwilio am enaid anfarwol, yr oedd cof am dani ymysg y môr-forynion ar waelod y môr. Oherwydd hi oedd y fôr-forwyn dlysaf a welwyd erioed. A bu holi mawr ymysg y rhai hynaf a oedd rhyw ffordd i osgoi ei thynged, druan. Oedd, yr oedd ffordd.