Tudalen:Llyfr Owen.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Noson y briodas daeth dwy fôr-forwyn mewn dillad duon i chwilio am eu chwaer, a dywedasant wrthi: " Rhaid i ti farw bore yfory fel rhai sydd yn perchen enaid. Ni chei di dri chan mlynedd hapus dan donnau'r môr fel ni. Pan dorro'r wawr, ei yn ychydig niwl, ac ni byddi mwy. Ond y mae un ffordd i ti ddianc yn ôl i hen fywyd hapus y môr. Dyma i ti gyllell. Gwêl mor finiog a blaenfain ydyw. Pan fydd pelydr cyntaf y bore'n torri, dos at wely'r tywysog a phlanna hon yn ei galon. Yna dianc atom ni i lawenydd y môr."

Cymerodd y fôr-forwyn y gylleth, a chuddiodd hi yn ei mynwes. A phan oedd y bore'n torri, aeth i ystafell y tywysog a'r gyllell yn ei llaw. Clywai ei anadl esmwyth, teimlai'n ysgafn lle'r oedd ei galon yn curo. Yna cofiodd mor garedig oedd, ac na wnaeth ddrwg iddi erioed. Yr oedd gwên ruddgoch gyntaf y bore'n edrych arni tros y môr. A'i chalon fach, garedig, yn curo, wedi dewis marw ei hun yn hytrach na drygu arall, gollyngodd y gylleth o'i llaw. Teimlai ei hun yn mynd yn ddim am ennyd. Yna teimlai freichiau tragwyddol o dani, a llais tyner Tywysog Tangnefedd yn sibrwd wrthi :

"Bydd fyw byth, rhoddais enaid i ti pan aberthaist dy hun."

Gofynnais i'r bechgyn a oeddynt yn credu'r stori. Edrychent arnaf yn swil, ond ni ddywedent air.