Tudalen:Llyfr Owen.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVIII

Y PYSGOTWR A'R MORWAS

1—LLAWER hanes rhyfedd a geir am y fôr- forwyn a'r môr-ddyn yn Ynysoedd Sietland,—swp o ynysoedd a saif ryw gan milltir i'r gogledd o'r Alban. Yn ôl cred yr ynyswyr hyn, y mae gwlad deg odiaeth yng ngwaelod y môr, a breswylir gan fodau tebyg o ran ffurf a gwedd i breswylwyr daear, bodau o'r prydferthwch mwyaf swynol.

Y mae'r bodau glandeg hyn, fel pysg y dyfnder yn gallu tramwy trwy y dwfr. Meddant hefyd ar alluoedd sydd braidd yn oruwchnaturiol, ond eto maent yn agored i farw fel ninnau.

Am y wlad danforol honno dywedir ei bod o faintioli mawr, ac nid ar waelod y môr y mae, ond tan waelodion y môr, fel y mae llawr y môr a dyfrol fyd y Pysgod yn ffurfio to uwch ei phen. Yn y diriogaeth bell, isfor honno, y mae'r trigolion wedi adeiladu iddynt eu hunain anheddau gwych o gwrel a pherlau'r dyfnfor.

2. Ond eto, sylwer, ni all y bodau tanforol hyn dramwy trwy y dwfr ac anadlu ynddo yn eu ffurf gynhenid eu hunain, yn y ffurf a'r wedd sydd arnynt pan yn byw yn eu gwlad eu hunain; a hynny am y rheswm eu bod yn meddu ysgyfaint fel yr eiddom ninnau i anadlu'r awyr. Ac felly, er mwyn medru tramwy yn ôl a blaen rhwng ein byd