Tudalen:Llyfr Owen.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni a'u byd hwythau trwy ddyfnion ddyfroedd y weilgi, y maent yn gorfod gwisgo am danynt groen rhyw greadur dyfrol, rhyw greadur a fedr fyw ac anadlu yn y dwfr.

Y creadur y maent hoffaf o fenthyca ei groen yw'r morlo neu'r moelrhon; oblegid gall hwnnw, fel y llyffant, fyw yn y dŵr lawn cystal ag ar y tir. Ac felly gellir eu gweled, y bodau teg, isfor hyn, yn aml yn dod i fyny o'r dyfnder, ac yn dringo ar ryw graig neu ynys yn y môr, neu i ryw gilfach ddirgel ar y glannau; ac yno yn diosg y wisg fôr oddi amdanynt, ac yn ymddangos yn eu dull a'u gwedd eu hunain.

A golwg wen, lân, a swynol fydd arnynt hefyd y pryd hwnnw, yn eistedd felly ar ryw astell o graig, gan daflu eu golygon hyd wyneb y môr, a syllu ar y glannau gwyrddleision ac anheddau dynion. Ond bodau hynod lednais, gwylaidd ac ofnus ydynt; ac felly yn caru yr encilion a mannau anhygyrch. Y mae un peth arall pur hynod ynglŷn â phob un ohonynt, yn fôrwas ac yn fôrfun,—nid oes ganddynt ond un croen morlo, un gwisg fôr bob un; ac os collant honno pan fyddant yma yn ein byd ni, ni allant ddychwelyd adref hebddi, trwy ddyfnion lwybrau'r môr, a bydd raid iddynt ymfodloni i fyw ar y ddaear.

3. Ac yn awr am y stori. Unwaith, glaniodd llond cwch o ddynion ar un o'r ynysoedd bychain, creigiog, sy'n gorwedd ar Ynysoedd lannau'r Sietland, gyda'r amcan o ddal a lladd y morloi a dorheulai yno.