Tudalen:Llyfr Owen.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Peth yn symud yn ddigon hwyrdrwm ac afrosgo ar dir yw y morlo; ymlusga ymlaen ar ei dor gan arfer ei adenydd fel traed, a cheisio cyrraedd i'r dŵr cyn i'w erlynydd ei ddal.

Y dull a gymerir i'w dal yw, rhoddi dyrnod drom iddynt ar eu pen, gyda phastwn neu rwyf, yr hyn fydd yn eu parlysu, a'u gwneud yn ddiymadferth. Yna tarewir ati i'w blingo,— oblegid er mwyn y crwyn blewog sidanaidd y byddir yn eu hela felly.

Wel, yr oedd y dynion wedi gorffen eu gwaith am y diwrnod hwnnw, wedi dal a blingo llawer o'r morloi, wedi llanw y cwch a'r crwyn, ac yn paratoi i rwyfo yn ôl am y lan, ac am eu cartrefi ar yr ynys a elwid Papa Stŵr.

Yn sydyn, cwyd y môr a'r llanw yn froch a gwyllt o'u cwmpas, a phawb yn rhuthro'n chwim am y cwch; ac y maent oll ond un, yn llwyddo i neidio iddo; yr oedd yr un hwnnw wedi rhyw hongian yn ôl, yn lle prysuro am y cwch pan welodd y perygl, ac y clywodd waedd ei gymdeithion.

Er i'r morwyr wneud pob ymgais dichonadwy i'w gael i'r cwch oddiar y greiglan, methu fu, er iddynt beryglu eu bywyd yn yr ymgais. Bu raid iddynt adael y truan ar y graig i'w dynged. Dynesodd y nos,—noson ddu, dymhestlog,—ac ni welai yr adyn obaith ymwared o umnan,—dim ond trengi o ryndod a newyn, neu gael ei ysgubo oddiar y graig i'r dyfnder gan y tonnau broch a brigwyn a ruai'n uwch, uwch o'i gwmpas.