Tudalen:Llyfr Owen.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yntau'n sefyll yno felly, ynghanol gwawch y gwyntoedd a rhu y tonnau, gwelai haid o'r morloi, a llwyddasai i ddianc oddiar ffordd y pysgotwyr, yn dod yn ôl tua'r ynysig greigiog yr oedd ef arni, yn dringo i fyny arni, yn ymddiosg o'r forwisg o groen oedd am danynt, ac yn sefyll i fyny yn eu ffurf a'u gwedd gynhenid, fel meibion a merched y wlad danforol.

4. Y maent yn ddiymdroi yn dechrau chwilio am eu ceraint a'u cydnabod, a oedd wedi eu dyrnodio'n gelain, a'u blingo, ar hyd y lle. Wedi i'r trueiniaid blinedig hyn ddod atynt eu hunain, ymddadebru o'u pensyfrdandod, ymnewidiant i ffurf môrweision a môr-forynion; ac yna dechreuant gwyno ac ochain mewn math ar brudd alargan dorcalonnus, eu bod wedi colli eu mòrwisg.

Ac O! yr oedd eu cân yn swnio'n lleddf gwynfanus yn gymysg â dadwrdd terfysglyd gwynt y môr,—cwyno'n drist ddolefus na chaent ddychwel byth yn ôl i'w hoff a'u hannwyl drigfannau perl a chwrel, tan lasddu ddyfroedd Iwerydd ehangfaith.

Ond ymhlith y dyrfa gwynfanus oedd o gwmpas y dyn a adewsid ar ôl ar yr ynys, prif destun y galar a'r cwyno oedd Olafìtinus fab Gioga. Yr oedd Olafitinus wedi ei ysbeilio o'i groenwisg, ac felly wedi ei ysgaru yn llwyr ac am byth oddiwrth ei deulu a'i garennydd, a'i gondemnio i fyw bywyd yr alltud digartref ar glawr daear.