Tudalen:Llyfr Owen.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Modd bynnag, dacw eu cân yn tewi yn swta, oblegid canfyddant y dyn, druan, un o'u gelynion, yn ymledu'n rhynllyd, ofnog, ar ddannedd y graig gerllaw. Gwelant yn ei lygad ei fraw a'i anobaith yn yr olwg ar y llanw broch ymddyrchol ruai o'i gwmpas, heb ddim ond boddi yn ei aros.

Pan welodd Gioga ef,—Gioga oedd mam Olafìtinus,—tery i'w meddwl y gallai wneud defnydd o'r dyn hwn i geisio rhyddhad a dihangfa i'w mab o'i alltudiaeth yn y byd uchod.

Ar hyn, y mae yn ei gyfarch, yn fwyn ac yn foesgar, ac yn cynnig ei achub o'i berygl, trwy ei gludo ar ei chefn trwy'r gwynt a'r tonnau i'r lan i Papa Stŵr, ar yr amod ei bod i gael y croen morlo oedd yn fôrwisg i Olafitinus.

Balch oedd y dyn i dderbyn y cynnig; ac y mae Gioga yn gwisgo ei môrwisg amdani yn y fan, ac yn paratoi i nofio am y lan.

Ond yn yr olwg ar wyllt gynnwrf y môr trochionog, y mae'r dyn yn rhyw ofni'r fordaith; ac erfyn ganiatâd y fôrfam i dorri dau dwll yng nghroen ei gwddf, i gael gwell gafael llaw, a dau dwll arall yn ei dwy ystlys yn afael troed. Y mae hithau yn caniatáu hynny, ac yntau yn cymryd gafael gadarn, ewingraff', yn ei farch rhyfedd.

Trwy dduwch y nos, a chynddaredd y dymestl, cyrhaeddant y lan, yn chwim ac yn ddiogel ym mhorthladd Acres Gio yn Papa Stŵr. Yn syth uniongyrch y mae'r dyn yn mynd a Gioga at y crwyndy i Hamna Foe.