Tudalen:Llyfr Owen.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd rhyfel enbyd yn y byd. Yr oedd hynny cyn rhyfeloedd Boni. Hwyrach mai Rhyfel y Saith Mlynedd oedd.

Yr oedd teulu bach dedwydd yn byw yn Nhy'n y Gwrych. Byddai'r gŵr yn gweithio hyd ffermydd yr ardal, yr oedd yn ŵr da gydag aradr yn y gwanwyn, a chyda ffust yn yr hydref. Yn y gaeaf ef a fyddai'n crasu'r ŷd yn un o odynau yr ardal.

2. Yr oedd porthmon yn dod i'r ardal ar ei dro. Byddai'n troi llawer o amgylch Ty'n y Gwrych, er nad oedd yno na gwartheg na defaid iddo i'w prynu. A phan fyddai hwn yn yr ardal, gofalai gŵr y tŷ am fod gartref, er gwaethaf yr aredig a'r dyrnu a'r crasu a'r cwbl.

Y gwir yw, yr oedd trysor wedi ei guddio yn rhywle ym mwthyn Ty'n y Gwrych. Ni ŵr ei faint, ond buasai'n ddigon i synnu y neb a'i gwelai. Ac fel hyn y daeth yno.

Yr oedd y gŵr wedi bod yn was ffyddlon i ŵr bonheddig o deulu uchel. Gorfu i hwnnw ffoi. ar gam, o'i wlad ei hun dros y môr. Cyn myned, daeth ar hyd nos i Dŷ'n y Gwrych a baich trwm ar ei geffyl. Cuddiwyd hwnnw ganddo ef, ac ni wyddai neb ond y gŵr lle y rhoddodd ef. Ac addawodd hwnnw gadw'r gyfrinach, a gwylio'r trysor hyd nes y deuai'r meistr yn ôl.

Aeth rhai blynyddoedd ymaith, ond ni ddeuai na siw na miw oddiwrth y dyn a ddihangodd dros y môr. Ond yr oedd y porthmon dieithr wedi amau, rywsut, fod ei drysor yn Nhy'n y Gwrych.