Tudalen:Llyfr Owen.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda'r nos daeth yno drachefn, a dywedodd mai dymuniad y tad oedd iddo ef gymryd ei le, ei fod am aros gyda hwy, ac y byddai drannoeth yn dechrau ceibio holl lawr y bwthyn, i'w ail wneud. Ac wylodd y plant yn chwerwach am fod un mor frwnt yn cymryd lle eu tad hoff a charedig. Yr oedd yn noson olaf yr hen flwyddyn. Noson glir, oleu-leuad, oedd, a rhewai'n galed. Yr oedd yr afon yn blymen o rew; a gwasgai y plant at eu gilydd yn y bwthyn rhag rhynnu gan yr oerfel. Yr oedd y porthmon wedi yfed diod gadarn, codai ei lais yn uwch o hyd; ac o'r diwedd, gan regi, agorodd y drws a dwedodd wrth y wraig a'r plant : Fy nhŷ i yw hwn. Allan â chwi, bob un! Y mae allan yn ddifai le i chwi."

4. Yr oedd dau ddyn yn nesu at y bwthyn. Yr oedd un yn hen ŵr crwm, gwalltwyn; yr oedd y llall yn ddyn cydnerth canol oed. Daethant i'r drws y funud yr agorodd y porthmon ef: a chlywsant ei eiriau.

"I ble'r ânt o'u tŷ eu hun?" ebr y gŵr canol oed.

Gwelwodd y porthmon, a chrynodd ei liniau. Ond tra oedd yr hen ŵr yn edrych a oedd y trysor yn ddiogel, a thra oedd gŵr Ty'n y Gwrych yn edrych a oedd ei drysor yntau'n ddianaf, sef ei wraig a'i blant, dihangodd y porthmon o'u gŵydd. Drannoeth, cafodd bugail ei gorff rhewedig ar Gors y Ddwywern. A daeth diwedd ar ofnau ac eisiau teulu'r bwthyn.