Tudalen:Llyfr Owen.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3. Yn yr hen amser, yr oedd bachgen yn yr ysgol o'r enw Dewi ab Ioan, os cofiaf yn iawn. Ond mynnai yr athro, oedd yn bur ddiystyrllyd o bopeth Cymraeg, ei alw yn David Jones. Gwrthodai'r bachgen ateb i'r enw hwnnw, er pob gwawd ar ran ei gydysgolheigion a phob cosb a ddeuai oddiwrth yr athro. Yn y darlun gwelir ef yn eistedd ar gornel ei ddesg. Y mae'r athro'n galw "David Jones." Mae rhai o'r bechgyn yn ei wawdio, eraill yn edrych yn sarhaus arno, eraill yn ei gynghori i ateb. Ond eistedd ar gornel y ddesg, a'i freichiau ymhleth a'i ddannedd yn dynn ar ei gilydd, ac nid oes na chosb na gwawd na chyngor a wna iddo ateb.

Y mae'r bachgen yn ystyfnig. Ystyfnig, hefyd, oedd Owain Glyn Dŵr a Martin Luther. A pha ffolineb creulon oedd gwneud merthyr o fachgen oherwydd ei wladgarwch,—un o deimladau mwyaf santaidd a mwyaf dyrchafol dyn?

(Teitl y darlun gyferbyn yw—

Y GWLADGARWR. DAN WAWD.

Fe'i tynnwyd gan Mr. Frederic Evans.)