Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Pawb.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Byr Oeshanes yr Awdwr.

Ganwyd Dafydd Rhys Williams (Index) ar
Gefncoedycymer, Sir Frycheiniog, D. C., yn
fabi Rhys a Pegi (Powell) Williams. Canodd
Llew Llwyfo englyn cymwys iawn am y lle er
na fu yno erioed:

Glwysgu yw godreu'r glasgoed-ac anwyl
Yw gwenau'r mynyddgoed;
Mynaf hyd ddyddiau'm henoed
Gofion cu am Gefn y Coed.

Symudodd ei rieni o gymydogaeth Defynog
i'r gweithiau gan ymsefydlu ar y Cefn, lle y
treuliasant y gweddill o'u hoes.
Ganwyd yr Awdwr yn nhai Hywel o'r Llwyn,
ar dwyn yr Hen Dy Cwrdd, a phan yn ychydig
flwyddi oed, cafodd ei hun yn byw ar yr Heol
Fawr, tua haner y ffordd rhwng y Tabor, cap-
el yr A., a phont v Cefn. Dylynai ei dad yr al-
wedigaeth o borthmon, ac wedi hyny cigydd, a
symudodd y teulu yn ddiweddarach i gongl yr
Heol Fawr a heol Ebenezer.