Tudalen:Llyfr emynau (IA llyfrem00jone).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EMYNAU. Myfanwy M I. (M. B.)

1 Mawl yn yn Sion.

 
O, cenwch fawl i Dduw,
Tra gweddus ydyw 'r gwaith,
Am ei drugaredd Ef a'i rad,
Pob ardal, gwlad, ac iaith.

Pan ddwg ei blant yn nghyd,
Yn hyfryd fe'u hiachâ;
Gan rwymo'r ysig galon friw,
Mae Duw yn feddyg da.

O Sion canmol di
Y Duw sy 'n rhoddi hedd,
A phob cysuron it' yn nghyd,
Nes myn'd o'r byd i'r bedd.

I'r Drindod heb wahân,
Rhown fawl ar gân i gyd,
Sain haleluia fo'n mhob man
Drwy bedwar ban y byd. Amen.

2 Dedwyddwch y Saint

Dewch chwi sy'n caru Duw,
A llawenhewch yn awr:
Cydseiniwch bêr ganiadau gwiw
O gylch yr orsedd fawr,