colledig yw'r rhan fwyaf, mai aml yw y rhagrithwyr, mai anaml yw addolwyr y Tad, mai taer yw'r gelyn, mai diarfog yw dyn, mai mynych y cwympais i fy hunan, mai digymmar yw fy mhechod, ac mai cant i un y cai fyth fod yn gad wedig.
Col. Dymma'r atteb, Wele mae'r drws i'r bywyd yn agored etto. Na fydd ddiofal; di elli etto2 fyned i mewn i'r Plâs gogoneddus tragywyddol. Mae gwaedd oddiwrth Dduw drwy'r holl wlad, yn gwahodd pawb i mewn, er trymmed yw ei pechodau, ac er amled fu ei cwympiau. A phan ddelych yn dy ewyllys i mewn at Dduw, fe a rydd i ti arfau,3 i ymladd ar sarph, ac a'th wna di yn daer i dynnu i lawr wrychoedd gardd y cythrael ynoti ac yn y byd; ac fe a ddysg i ti addoli'r Tad ei hunan, yn ei Ysbryd a'i wirionedd ei hunan, drwy garthu allan y rhagrith a'r ffalsfeddwl. Ac yna di gei wybod dy fod ti mewn cyflwr cadwedig. wedi myned drwy'r porth i mewn i gyfiawnder Duw, rhwn sydd eiddo pob un ar sy'n nefol gredu efengil Duw. Canys nid o ddyn ond o Dduw y mae iechydwriaeth.
Er. Mae hyn yn gyssurus iawn, ond er hynny mae rhyw beth o'r tu fewn yn fy lladd i. Beth a wna un colledig? A oes dim help iddo?
Col. Rhaid yw dy ladd di cyn dy iachau, a'th golli cyn dy gael. Ac fel y daeth Immanuel o uwchder Nef i waelod uffern, felly i swydd ef yw codi llawer o waelod gwae i uwchder gwynfyd. Mi adwaenwn un y daeth Diafol atto, gan ddywedyd, "Colledig wyt." Yntau a attebodd, "Gwir yw hynny: ond (ebr ef) gwir yw hyn hefyd, ddyfod Christ i gadw'r colledig." Dal dy afael ar yr edef honno, fe gostiodd i Ghrist ei fywyd i nyddu hi i gadw dy fywyd di. Carwr y pechaduriaid pennaf yw'r Arglwydd Goruchaf."
Ac os coch fel scarlat yw dy bechodau, efe ai gwna. yn wynnach na'r eira. Mae ei Ysbryd ef megis sebon y golchyddion, yn carthu allan y llwgr dyfnaf. Ac fel y mae'r Mab yn rhad, felly mae'r Ysbryd hwnnw yn
1 Es. lxv. 1, 2. 2 Mat. xi. 28. 3 Eph. vi. 13. 4 Ioan iv, 24. 5 Rhuf. iii. 6 Hos. vi. I. 7 Marc li. 17. 8 Es. i. 18. 9 Mal. iii.