rhad hefyd.1 Gofyn, ac di ai cai. Hwn a esyd yr olaf yn gyntaf, a'r bryntaf yn lanaf.2 Hwn a gymer wiail newyddion i'th geryddu di (yn dy gydwybod) allan o honot dy hunan. Ni fyn ef i ti fod yn un o'r bastardiaid, ond yn un o wir hiliogaeth Duw; ac er mwyn hynny mae fe yn dy geryddu. Ac er cynted unwaith y gwelych di waelod uffern dy galon dy hun, ac uwchder cariad Duw, a rhyfeddodau Paradwys, a chanfod beth wyti, beth a fuost ti, a beth a fyddi di byth, ie, meddaf, pan ymglywech unwaith ac eli ac olew serch mwynaidd y Duw tragywyddol, yn iachau briwiau'r galon ar gydwybod, yna di waeddi allan, Hallelujah: Moliant Duw a leinw'r hollfyd: Pwy sydd debyg iddo? Iddo fo bo'r moliant. Duw a doddodd fy nghalon galed i, ac am dyscodd i yn siriol i ganu iddo gydai holl seinctiau, mewn ysbryd a nerth. Duw am carodd;5 Duw a'm cofiodd, ceisiodd, cafodd, cadwodd, cododd Haul fy mywyd trwy farwolaeth; Ffynnon fy ysbryd: Swm fy hiraeth; Gwreiddyn byd; a Phen angelion; Tad fy Arglwydd; Carwr dynion; ac o honno, drwy ddo, iddo, mae pob peth. Pwy all ei chwilio? Ond pan fych di llawenaf fel hyn ym Mharadwys Duw, yno gochel fwyaf rhag i'r sarph genfigennus ddyfod attat a dywedyd wrthyt, "Di elli yr awron fod yn ddiofal. Mae pob peth yn dda. Gollwng i mewn dy chwantau cyfreithlon naturiol ynot i ymgymmysgu ar deisyfiadau nefol, ac wrth hynny (medd y sarph) di gei'r ddau ynghyd.
Ond dymma'r gwir: Wrth hynny di golli'r Ysbryd pur ar golomen, ac yn i le fe ddaw'r gigfran i mewn,§ a'r llu o feddyliau duon, amheus, anfodlon, temhestlog, ac yno rwyti yn cwympo oddiwrth dy Gariad ath Briod cyntaf, ac megis yn colli dy fywyd, ath oleuni anwyl, ac yn putteinio yn dy feddwl gydag ysbryd mawr y byd hwn,10 yr hwn hefyd sydd yn chwennych. dy enaid tithau iw feddiant. Ni bu ddyn anllad erioed
1 Ps. li. 12. 2 Luc xii. 13. 3 Heb. xii. 4 Ps. cxlvii. 3 5 Ps. xl. 2, 3. 6 Ps. ii. II. 7 I Pet. v. 8. 8 Ps. xxx. 6, 7. 9 Hosea ii. 5. 10 Iago iv. 4.