yn chwennych morwyn brydferth, cymmain ac y mae ysbryd y byd hwn yn chwantu dy enaid di, canys fe ŵyr bywyd naturiaeth, i Dduw wneuthur dy ysbryd di ar ei luni hun, i fod yn forwyn iddo ei hun, ac na ddylit ti ymlygru gydag un creadur. Ac am hynny, os cefaist ti unwaith flas ar air Duw, gochel i golli,1 à mynd yn buttein yn dy feddwl i chwantau diafol, ar cnawd brwnt, ar byd byr ymma.
Er. Ond beth os cwympa dyn oddiwrth y gofal, ar hiraeth, ar cariad cyntaf? A oes dim gobaith o hwnnw? Col. Coded hwnnw yn fuan. Cofied mai gwell yw bod ym mreichiau Mab Duw nag ymdrybaeddu yn y cnawd. Gochel galedu dy gydwybod wrth i mynych dwymno ai hoeri. Mae dy reswm di (O! ddyn galwedig) fel neuadd wedi ei hyscubo, ai threfnu, ai goleuo.3 Gwilia rhag i saith ysbryd naturiaeth lygredig ddyfod i mewn eilwaith, rhag i'r diwedd fod yn waeth na'r dechrau. Drwg ac erchyll yw dechreuad pechadur wrth i eni i'r byd, ond mae diwedd rhai yn waeth wrth i geni or byd. O cymmer ofal rhag i'th ganwyll ddiffodd ar y ddaiar, rhag na bo goleuni ynot i ddangos i ti i ba le yr ei di wrth farw.5 Ond bydd wrol; cynnydda mewn gwybodaeth, a gostyngeiddrwydd, a hyfdra gyda Duw. Dal y daioni a gefaist. Gad ir hedyn mwstard hedeg a thyfu ynot. Cadw allan y drwg, a gwaedda am help ar Achubwr a nesha attat. Cofia weision Duw gynt; er amled oedd ei gwendid, yr oedd ei Meistr yn rhoi henwau parchedig arnynt; sef, Noah berffaith, Abraham ffyddlon, Lot gyfiawn, Job ddioddefgar, Dafydd llun calon Duw, Jonah y prophwyd, a Moses addfwyn (yr hwn pan ddigiodd seithwaith fe a bechodd unwaith). Am hynny, ymdaro di yn lew ar gelyn yn nerth yr Oen. Cymmer gleddyf llym angau Christ i ddarnio'r sarph, ac i ladd yr hen ddyn ynot. Os cwympaist, cyfod; ac os codaist, gochel gwympo. Nid rhaid i ti ymgadw rhag dim ond rhag y pechod, yr hwn yw gelyn Duw, a gefail diafol, drwy'r hon y mae fo yn cymeryd gafael ar y meddwl.
1 Heb. vi.; Hos. ii. 7. 2 Ezec. xvi. 3 Luc xi. 24. 4 2 Petr ii. 20. 5 Ps. xiii. 6 6. I Cor. xvi. 13; Dat. ii. 25.