Er. Adolwg, dangos i mi yn eglurach, pa beth yw pechod.
Col. Pechod yw troseddiad y gyfraith,1 amhuredd y creadur, croesineb naturiaeth yn erbyn Duw, gwrthwynebrwydd iw ewyllys sanctaidd ef. Pechod yw, pan fo'r meddwl yn chwilio am fodlonrwydd lle nid yw iw gael.2 Rhaid yw deall mai drwy bechod Adda y torrwyd naturiaeth yn ddarnau, ac mae Duw drwy'r darnau hyn (sef drwy bob peth) yn bod. A'r pechod yw ceisio3 dedwyddwch yn y darnau hyn, ond nid yn Nuw. Mae'r dyn glwth yn chwilio am y daioni mewn bwyd, a'r meddw mewn diod, a'r balch mewn dillad neu ddoniau'r meddwl. Hefyd mae'r gwryw a'r fenyw yn tybied fod y perffeithrwydd yn y naill y llall, ac yn mynd drwy fryntni (o flaen wyneb golau Duw) yw geisio, ond yn lle i gael yn cwympo ill dau i ffau y cythreuliaid. Canys nid mewn un creadur, nac yn yr holl greadwriaeth, y mae'r trysor ar blodeuyn Daioni. Mae'r wybren, a'r ddaiar, a'r môr yn llefaru, Nid yw ynom ni.5 Mae'r defnyddiau ar dyfnderau, ie, ac amser hefyd yn dywedyd, Nid yw ynom ninnau. Di elli gael y rhain heb gael Daioni, er i fod ef yn ymguddio drwy'r cwbl yn Mhreswyliwr tragywyddoldeb. Mae chwantau'r meddwl fel saethau, pob un ar sy'n mynd heibio i Dduw, pechod yw: O, mor aneirif yw'r rheini! Ac ni all dyn ond pechu tra fo ef yn aros yn nghanghenau naturiaeth, hynny yw, yn llygadrythu ar y naill beth ar ol y llall, heb ddychwelyd ir undeb, yr hwn yw Duw ei hun, A chymaint o ddyn ac sydd yn Ysbryd Duw, cymaint a hynny sydd heb bechu. Ac yn fynnych mae enaid dyn yn pechu, pan fo ei ysbryd ef yn ymgadw yn bur.6
Er. Roeddwn i gynne yn barod i ffeintio, ond yr awron mae ynof beth nerth, a chefn a chalon, i ymofyn ymhellach cyn ymadel. Adolwg, dangos beth yw y rhagoriaeth rhwng yr enaid a'r ysbryd yn yr un dyn?
Col. Ysbryd dyn yw'r tryssor mawr, ar enaid sydd megis llong iw ddwyn o'r naill ir llall. Ysbryd dyn
1 I Ioan iii. 4. 2 Esay lv. 2 3 Luc xv. 16 4 Phil. iii. 19. 5 Job xxviii. 4. 6 Ps. li. 6.