yw'r castell, ar enaid sydd fel tref oi amgylch. Yr ysbryd yw cynhwyllin y meddyliau, a'r enaid yw pliscyn y rheswm oddi allan. Yr ysbryd (medd yr Yscrythyr) yw'r mêr, a meddyliau'r enaid yw'r cymalau, Ysbryd1 dyn yw gwreiddyn y pren, a rhesymau'r enaid yw'r canghenhau. Mae enaid ymmhob peth byw, a math ar ddeall gan anifail, ond nid oes ysbryd anfarwol mewn dim ond mewn dynion ac angelion. Yr enaid2 y mae dyn yn ei lun ei hun yn ei genhedlu, ond Duw yw Tad (ac nid Taid) yr ysbryd; yr enaid rhesymol yw hwylbren dyn, ond yr ysbryd yw llyw y llong. Weithiau mae ysbryd dyn yn rhodio (fel Dina) allan yn rhodfeydd yr enaid, ac yno mae gwynt ysbryd y byd hwn yn i gipio; ond mae ysbryd dyn naturiol yn wastad allan o hono ei hun, fel y mab afradlon, nes dychwelyd, yn cael i ddwyn ynghertwyn y cythrael, ac yn dilyn ei chwibianiad ef yn y cnawd. Mae'r ysbryd fel tŷ Lot, a'r enaid yn y cnawd fel heol Sodom. Ac fel y mae rhagoriaeth rhwng anadl dyn a'i feddwl, felly y mae rhwng yr enaid ar ysbryd. Yr ysbryd yw neuadd yr enaid, a'r enaid yw porth yr ysbryd. Dymma'r ysbryd (yn angau'r corph) sydd yn escyn i fynu at gadair Preswyliwr tragwyddoldeb,5 pan fo enaid anifail yn descyn i lawr, canys gwaed yw.
Deall hyn hefyd, wneuthur o Dduw ddyn ym merion pob creadur (megis cynhwyllin y byd mawr). Fe anadlodd Duw oi enau ei hun, ei anadl ynddo, iddo, a hwnnw a bery byth. Ei ysbryd naturiol sydd drwy gyd-gynhulliad y ffurfafen, ai gorph or pedwar defnydd. Mae dyn Duw yn gyfrannog ar sêr mewn tegwch, ar planhigion mewn tyfiant, ac ar anifail mewn synhwyrau cnawdol (y rhai yw'r enaid naturiol): yn gyfrannog hefyd ar angelion mewn deall tragywyddol, ac a Christ yn y natur nefol. Na chymmer di mo'th dwyllo gan dwyllwyr yr oes hon, ac na fydd ddierth i ti dy hun. Di weli ynot dy hun ddau fath ar feddyliau. Rhai dyfnion, cuddiedig, pwrpasol, dewisedig, anwyl (fel aur
1 Heb. iv. 12. 2 1 Thes. v. 23 3 Luc. xv. 17 4 Eph. ii. 2, 3. 5 Preg. iii. 21. 6 Psal. cxxxix.