yn y meddwl). Mae rhai eraill yn gweu i mewn ac allan drwy'r meddwl, fel dynion mewn lletty, ond nid ydynt yn aros ynddo. Di weli hefyd fod y naill feddwl ynot yn gwrthod y llall; ath fod ti yn meddwl llawer peth yn erbyn dy ewyllys. Gwybydd, gan hynny, agor dy lygaid a gwel, mai gwreiddyn yr ewyllys yw dy ysbryd, ac mai'r llall yw cyfraith dy aelodau. Mae'r enaid yn y byd ymma yn sefyll yn y corph, ar ysbryd yn llechu yn yr enaid. Pawb sy'n gweled corph dyn, a llawer sy'n canfod yscogiadau yr enaid, ond ychydig yn dirnad yr ysbryd dirgelaf, sef gwaelod y galon: ni wêl neb hwnnw ond Ysbryd Duw, yr hwn sydd yn chwilio pawb. Ymhellach; fel mai'r corph yw cyscod yr enaid, ar enaid yr ysbryd, felly di elli weled fel y mae dy ysbryd di yn bwrw'r ymporion holl (yr holl feddyliau naturiol) fel gwagedd a gorthrymder ysbryd i breseb yr enaid, ar enaid yn bwrw yr ymborth corphorol i hopran y corph. Mae tair nef yn gweithio ar dair rhan dyn; yr isaf ar ein cyrph[1] (fel y gwelwn beunydd), y ganol ar ein heneidieu, ar uchaf ar ein hysbrydoedd. Yn yr ysbryd, enaid, a chorph, yr ymddangosodd Duw ac y pechodd dyn, ac y dioddefodd Christ. Mae rhinweddau dyn naturiol yn ei enaid, ai bechodau yn ei ysbryd; mae rhinweddau dyn ysbrydol yn ei ysbryd, ai bechodau yn unig yn ei enaid. Y sawl ni adwaeno ei enaid ai ysbryd, ni ddeall nai feddyliau'r dydd, nai freuddwydion y nos, Pam y mae rhyfeloedd mewn Seinctiau oddifewn? am fod y dref ar castell ymma yn saethu at ei gilydd. Pam y mae ymrysonau ymysg ffyddloniaid? am fod enaid y naill yn ymosod yn erbyn ysbryd y llall, canys yr un yw ei hysbryd hwynt oll yn Nuw, ond ni chytuna ei heneidieu naturiol ai gilydd. Ac hefyd llawer dyn sydd yn newynu ei ysbryd wrth besci ei enaid a rheswm dynol. Mae tair rhan dyn yn ymddangos fel plant, a gweision, ac anifeiliaid Iob, neu yn debig i dri mab Noah ai gwragedd; neu fel tri phlentyn yn y ffwrn, a Mab Duw yn bedwerydd; neu fel cyntedd y deml, ar lle Sanctaidd, a'r lle Sancteiddiolaf. Cofia dithau mai'r
- ↑ Job xxxviii. 33.