Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tri hyn yw dy dyddyn ath etifeddiaeth di; ac mae'r Yscrythur Lân yn son yn helaeth ac yn fynych am enaid, ac ysbryd, a chorph, er nad oes fawr etto yn deall hyn. Ar rhai sydd yn canfod ychydig lewyrch, ni chaniadhaed iddynt moi draethu mewn iaith ddynol, canys dyfnder anfeidrol yw, prin y ganwyd yr amser yn yr hon y datguddir hyn. Ond disgwil di yn ostyngedig am Dduw, ac di gei weled rhyfeddodau tragywyddol ei gariad ef, a bydd ddiolchgar am ychydig oleuni.

Er. Ond mae arnai ofn ysbryd Anghrist, rhag i mi dderbyn gau athrawiaeth, ac angel y tywyllwch, yn rhith angel y goleuni; mae llawer dysceidiaeth ddwfn, ddierth, ddyrus, yr awron nad wyfi yn i deall.

Col. Hawdd i blentyn y dydd adnabod Anghrist (Blaidd y nos), fel y dywedais i o'r blaen, wrth ei lais, ai liw, ai ddillad, a thuedd ei fywyd. Mae fo yn newid gwisg yn fynych2 ac yn dyfod yn rhith gostyngeiddrwydd, a dysceidiaeth, a goleuni newydd, yn cymryd arno brudd-der neu lawenydd, a zel i losgi'r cnawd ac i fyw yn ysbrydol, ac er hynny Hunan yw swm ei holl grefydd ef; ei ewyllys ei Hunan a wna, ai feddwl ei Hunan a fyn, a'i synwyr ei Hunan ai harwain. Mae'n hawdd dy adnabod di (O! sarph dorchog dwyllodrus), er dy fod ti yn nyddu dy edef yn llawer meinach nag o'r blaen. Rwyti yn ymffrostio mewn rhinwedd a chrefydd, ac opiniwnau o'r gwirionedd, rwyti yn son. am yscrythur ac awdurdod Duw,5 ond yr wyti yn byw mewn anghariad a chenfigen, mewn hyfdra cnawdol (yn barnu llawer cyn clywed barn Duw am danat dy hunan), yn rhyfela, yn lladd, yn llosci, yn lledratta dan rith duwioldeb, yn difetha'r defaid fel llwynoges, ac yn diangc i'th ffau, yn llechu yn dy synwyr dy hun, ac yn gwnio dail i guddio dy noethni; wele llais y Goruchaf a'th ddychryna, a discleirdeb ei ddyfodiad a'th ddifetha. A'r sawl a addolo Dduw ei hun a ddiangc rhagot ti.

1 Mat. vii. 16. 2 2 Cor. xi. 14. 3 Col. ii. 8. 4 2 Cor. x. 12 5 Dat. xiii. 6 Mat. vii. 3; Jer vii. 4. 7 Ps. . xxix. 9; Preg.vii. 26.