Er. Ond beth a wna un sydd yn tybied yn ei galon nad yw ei holl grefydd ef hyd yn hyn ond oferedd cnawdol, a phennod rhagrithiwr.
Col. Dechrau o newydd, a chymmer dy gyfrif fel plentyn bach. Anghofia yr hyn sydd or tu'n ol,1 er na wyddost nad oedd gras Duw yn yr hyn a wnaethost. Oblegid yr un deyrnas sydd yn gyntaf yn yr eginin, ac yno yn y dwysen, ac yn olaf yn ŷd llawn yn y dwysen.2 Na farned neb ddydd pethau bychain,3 rhag i fawr farn Duw gwympo arno. Di fuost mewn cystudd meddwl yn ysbryd caethiwed mynydd Sinai, ac ar y bryn myglyd erchyll hwnnw yr wyti etto mewn rhan, ond mae'r troed arall ar fynydd Sion. Cofia fod cariad Duw yn bwrw allan ofn, fel y taflodd Sara Hagar allan. Mae cariad Duw yn toddi calonau rhai yn llawer cynt nai ddigofaint. Gochel iau y caethiwed. Ai un or Hagarenniaid a fyddi di yn dy ddiwedd? Fe ddyle fod ynot feddwl sobr, siriol, diolchgar, hyfryd, gweddaidd, diniwed yn wastad.4 Nid wyneb-pryd sarug, sur, cymylog; ond wyneb-pryd angel doeth, diwyd, distaw, digymysg ac oni buost felly, edrych a gwêl. Mae'r pren mawr yn blodeuo ynot ti ac eraill. Bydd felly o hyn allan.
Er. Er hyn i gyd, mi dybygwn nad wyti weithian yn atteb ond yn dywyll ac yn brin, a bod llawer o'r peth a ddywedaist ti i'w roi heibio cyn nemmor o amser.
Col. Cofia hyn (O! Eryr) fod yr holl ymddiddan ymma a fu rhyngom ni fel llyfr corn, neu A, B, C, i blentyn; ond mae amser a lle i bob peth, ac mae yn rhaid rhoi llin ar lin, a gorchymyn ar orchymyn, i'r anneallus, a dysgu i'r baban Grist Groes (yr hon ni ddeallodd nemmor mewn nerth etto). Er hynny, di weli pa fath waith a wna'r Goruchaf wrth ysgogiad deilien. Fe alle drwy hyn y gweithia fo lawer ynghalonnau rhai. Ond y mae llawer dirgelwch iw ddangos ar fyrder, nad wyfi yr awron yn fawr son am
1 Phil. iii. 13. 2 Marc iv. 28. 3 Zech. iv. 10. 4 I Ioan iv. 13. 5 Esay xxviii. 13.