dano: ac, meddaf, nid yw hyn i gyd ond golygiad mewn drych, ar frys, neu rossyn yn gwywo wrth i arogli. Nid yw llyfrau a llythrennau ond fel gwellt; mae'r bywyd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; a'r sawl sydd ysbrydol a ŵyr oddiwrth ba ysbryd y daeth y pethau hyn; ac nid gwatwarwr yw. Ond gochel di, pwy bynnag wyt (er doethed, meddant, neu er duwioled) esceuluso, dan dy berigl, y peth a yscrifennir ymma, neu ddarllain yn ddifraw, ai fwrw i gornel i rydu yn dy erbyn, heb i ddeall hyd y gwaelod. Canys mewn rhyw fannau mae dyfnion bethau Duw yn ymddangos, ac mewn eraill mae llaeth, ac megis chwaryddiaeth hefyd, i'r rhai bychain: ac weithiau rwi'n adrodd yr un peth yn fynych drosto
Er. Ond mae llawer o'r dyscedigion nad oes ganddynt fawr bris (dybygwn i) am y pethau hyn.
Col. Taw son o'r diwedd: nid oes ŵr o ddysg yn y byd, nag oes un a fedr ddarllain holl ddalennau ei galon, ai feddyliau ei hun.[1] Nid yw'r Doctor ond anifail cyfrwys, nid yw'r ysgolhaig da (fel y gelwi di fo) ond aderyn coeg, oni bydd rhodd or Nefoedd ganddo; ac os bydd, mae fo yn isel ei feddwl, ac yn lleshau pawb mewn cariad, ac yn byw yn gyfion, yn sobr, ac yn dduwiol.[2] Mae gwir ddysg, yn dyscu dyn i fod yn y byd ymma yn ddiniwed fel plentyn, yn fuddiol fel dafad, yn ddiofal am y byd (fel un yn huno yn monwes y Creawdr), yn effro yn erbyn pechod, yn ddiwyd yn ei orchwyl, yn ddigenfigen oddifewn, yn llawenhau yn naioni eraill, yn llonydd dan waethaf dynion, yn ddioddefgar dan ddigofaint Duw, yn fodlon beth bynnag a ddigwyddo, yn nefol fel Christ ei hunan, yn hyfryd mewn tristwch, yn galonog mewn cyfyngder, yn hyf fel y llew, yn wirion fel colomen, yn gyfrwys er mwyn yr efengil, yn ffiaidd ganddo ei hun, yn blino ar flodau natur, ac yn brefu am Baradwys: ac lle nad yw'r pethau hyn, nid oes yno ddim gwir ddysceidiaeth.
Er. Ond beth, oni ddyscais i yr un o'r rhain etto? Col. Mi ddywedais o'r blaen, fod Duw yn danfon ei