holl blant ei hun allan o'i tai ei hunain, i yscol ei Fab. Ar sawl a ymroddo i'r Mab yn ei holl ewyllys, a gaiff i wneuthur yn ddyscedig am Deyrnas Nef, a chlywed llais yn siarad oddifewn, "Dymma'r ffordd, rhodia ynddi." "Cyfod," medd Jeremi, "i ti arwyddion ffordd; gosod it garneddau uchel i'th gyfarwyddo yn yr anialwch." Un garnedd yw Gwybodaeth, a lle ni bo'r garnedd honno mae'r dynion yn cyfeiliorni, canys. heb wybodaeth ni all y galon fod yn iawn. Fe all fod gwybodaeth heb ras (fel tanwydd heb dân), ond nid oes. dân heb dânwydd. Carnedd arall yw Cariad at bawb; llei bo hwnnw, mae Duw yno; ac llei bo, mae fo yn awyddus i wellhau pawb, ac yn ofalus rhag niweidio neb. Carnedd arall yw Gostyngeiddrwydd, ac isder meddwl llonydd, dioddefgar, distaw; ar cyfryw a gânt i dysgu gan Dduw ei hun. Cyfiawnder yw carnedd arall, a heddwch oddiwrth gyfiawnder, ac oddiwrth heddwch llawenydd mewn Ysbryd Glân.[1] Ar sawl a. wasanaetho Ghrist yn y pethau hyn, a fodlona Ddu ac fydd cymmeradwy yn mysg ei blant. Dymma rai o'r carneddi yn y mynydd i'th arwain i Ganaan; edrych ar y pilerau hyn ynot, a dos ymlaen, a chofia nad digon i ddyn fyned i ffordd dda, oni ŵyr ef mai honno yw'r ffordd orau. Bydd ddistaw oddifewn, di gei ddeall pob peth oddiallan. Na symmud chwaith nes codi o'r cwmmwl.[2] Hawdd yw diwno'r ffordd fawr wrth geisio i mendio. Aros ym mhebyll, Duw nes adeiladu plâs Caersalem newydd. Tanbaid yw zêl heb wybodaeth, ond cariad addfwyn, golau, sydd hyfryd.
Er. Dywaid etto, Beth a dybygi di am holl opiniwnau a chrefyddau y Twrciaid, a'r Papistiaid, a'r Protestaniaid, a'r Lutheraniaid, a'r Calvinistiaid, ar aneirif eraill o secti yn yr oes ymma? Mi addewais hefyd i'r Gigfran ofyn i ti cyn diwedd ynghylch y Llyfr Gwasanaeth.
Col. Na sonia am lawer o grefyddau, hen a newydd, a phob un yn barnu ei gilydd: nid oes un grefydd a dal ddim ond y creadur newydd.[3] Ac nid oes ond un