drws i mewn yno, a hwnnw yw'r ailenedigaeth[1] yn enw Christ. Fe fuase dda i'r dyn nis caffo hi fod wedi i eni yn gi neu yn gath, neu yn rhyw beth heb ysbryd anfarwol ynddo.
Swm duwioldeb yw: Câr Dduw a'th holl galon, a'th gymmydog fel ti dy hun. Y dyn nad yw yn dilyn hyn, ni waeth o ba opiniwn y bo; ar sawl a dybio iddo fedru hyn yn rhygl, nid edwyn hwnnw mo wreiddyn y chwerwedd sydd ynghardd y galon ei hun: ond i dwyllo ei hunan y mae. Mae'r opiniwnwyr yn ymrafaelio ai gilydd, fel cŵn a moch, er nad fel cŵn a môch yw y rhan orau ynddynt; a thithau (O! ddyn cyfrwysddrwg, segurllyd), uwchben uffern, yn chwerthin am eu pennau, wrth i gweled yn taro yn erbyn ei gilydd, yn yr entri dywyll, am i bod heb na gweled na deall iaith ei gilydd. Ond o hyn allan, gadewch ymmaith. yr holl ymryson tanbaid, anghariadus, rhyfelog, na wnaeth dda i neb erioed; a thewch a son, rhag i'r cythreuliaid chwerthin, oni fedrwchwi ymresymu mewn cariad ac addfwynder, a meddwl i ddyscu llawer mewn ychydig eiriau, bob un gan ei gilydd, ar cwbl gan Dduw. Ac am y Llyfr Gwasanaeth, ni thâl ef fawr son am dano; mae hi yn llawn bryd iw gladdu rhag i neb gael drwg oddiwrtho: yr hen bethau a ânt heibio, wele, fe wneir pob peth o newydd.
Er. Oni allafi gael gwybod i ba le mae'r holl eneidiau yn myned pan ymadawont ar bywyd yma? Pan elont hwy unwaith ymaith, nid ydym ni yn clywed dim oddiwrthynt hwy ond hynny. A aethant hwy ymhell neu yn agos, neu ymha le y maent hwy?
Col. O! Eryr angrhaff, i ba le mae'r ganwyll yn myned pan ddiffoddo hi, ond iw hwybren danllyd naturiol ei hun? Neu i ba le mae'r tân ar gwres or haiarn poeth yn mynd allan wrth ei roi mewn dwfr? Nid drwy'r genau y mae ysbryd dyn yn mynd allan or tŷ pridd, ag nid drwy'r genau y daeth yr enaid i mewn i'r corph ar y cyntaf; canys peth pur, bywiog, cyflym, yw ysbryd meddwl dyn, yn treiddio drwy bob corph,
- ↑ 1 Ioan iii. 3.