heb symmud na chynhyrfu dim. O! chwi rai deillion, agorwch eich llygaid a gwelwch fod ysbryd pob un (wrth ei dorri o'r corph) yn aros yn y naturiaeth[1] yn yr hon y bu fo byw. Os llygredig oedd y meddyliau, llygredigaeth tragywyddol iw ei lettŷ. Mae naturiaeth cariad, neu ddigter tragwyddol, yn cynnwys ei holl blant ynddi, ac yn cipio gafael (fel fflam ar wêr) ar bob ysbryd yn ol ei anian. Ond ni wêl dyn mo'i gartref tra fo ei gnawd am dano; mae dynion (meddaf) fel adar yn canu ar y pren, heb feddwl am y gwreiddyn sydd ynddynt. Mae'r eneidieu sanctaidd, a hunasont yn Nuw, yn llonydd yn y golau distaw, ymhob man o flaen ei wyneb ef, o'r tu allan i drwst ysbryd y byd, yn disgwil am gynhyrfiad y corph drwy gyffroad gwreiddyn naturiaeth: ond mae'r ysbrydoedd colledig wedi torri edef y bywyd, yn nhywyllwch meddwl digllonedd Duw, yn rhuo ac yn ochain, ond nid yw'r byd yn i clywed. Pam hynny? Am nad oes ganddynt hwy yn uffern mo'r llais tafod i lefaru, na chan y rhan fwyaf o honom ni glustiau ysbrydol i wrando, sef calonau iw hystyrio, er i bod nhwy yn yr un natur a ni. Ond mae'r ffyddloniaid ymma yn gwybod iaith y seinctiau yn y byd arall, ac yn canu yr un Halelujah i Dduw gyda hwynt, nid yn gweddio arnynt am fyned at Ghrist drostynt; canys mae fo ei hun yn nês atynt na seinctiau neu angelion. Ond am y defaid a'r geifr, yn y goleuni ar tywyllwch, cofia fod gagendor fawr rhyngddynt[2] (fel rhwng Lazarus a'r glŵth goludog) a honno iw y rhagoriaeth yn y naturiaeth dragywyddol. Fel rhwng melus a chwerw, neu rhwng da a drwg, y rhai, er i bod yn yr un lle, maent wedi ei gwahanu yn ddigymmod. A phan gwympo ysbryd dyn o'r corph i'r tywyllwch hwnnw, nid oes ganddo lygaid byth i weled y goleuni, na meddyliau byth am ddaioni. Ac o'r tu arall, y rhai sydd wedi diangc i'r goleuni hwnnw, nid oes fyth ganddynt feddwl am y tywyllwch. Am hynny edryched pob dyn, ym mha un o'r ddau y mae ei feddwl ef yn byw, tra fo ef yn y corph, canys ni ŵyr y colledig mo'i hanes ei hun.
Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/111
Gwedd