Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er. O! Golomen, mi fyddaf mor hŷf yr awron, cyn diwedd, a gofyn i ti dy hanes dy hun, sef Hanes y Golomen.

Col. Mi ddywedais i ti ar y cyntaf, ond ni ddeallaist. Rhaid yw tori pliscyn y ddammeg cyn cael y cynhwyllin, er bod yr yscrythurau sanctaidd hefyd yn llawn damhegion. Ar y cyntaf mi fum yn Enoch, yn ymryson ar hen fŷd, ond nid oedd neb am derbyniodd ond Noah anwyl ai deulu. Wedi hynny, mi ddaethum at Abraham, ac yn y fan fe daflodd ymaith ei reswm ei hun, ac am dilynodd i drwy ffydd. Mi fum yn ffenestri yr holl Batrieirch a'r Prophwydi hefyd. Ag ar ol y prophwyd Malachi, ni chefais i fawr le i ddescyn nes dyfod Ioan. Ond mi a orphwysais ar Iesu Ghrist ai Apostolion, ac mi a ehedais drwy'r eglwysydd hynny. Ond cyn ymadel o honynt hwy ar byd, fe ddaeth Brân y Nos (sef ysbryd Anghrist) ac a gafodd gennad im herlid i. Ac yno mi a ddiengeis i fonwes y Merthyron, ac yn y tân yr oeddwni yn i cyssuro hwynt. Ond yn ddiweddar, mi a ddiscynais yn ffenestri'r eglwysydd newyddion, ac weithiau ar rai o'i pregethwyr, er bod llawer o fudreddi yn ei nythoedd. Ac yr awron, mae'n weddus bod yn brysur, canys fe ofynnir, Pwy yw y rhain sydd fel cymylau, ac fel colomennod yn ehedeg iw ffenestri?[1]

Er. Ond pa fath rai y mynit ti i'th ddynion di fod? Col. Nid fel y genhedlaeth sydd yn melldithio'r tad, ac heb fendithio ei mam,[2] neu yn lân yn ei golwg ei hun, ac yn amherffaith yngolwg Duw. Nid fel y genhedlaeth sydd uchel ei llygaid, a'i dannedd yn gleddyfau, ai cilddannedd yn gyllill, i ddifa'r tlodion oddiar y ddaiar. Ond mi fynnaf im discyblion i fod fel y morgrug, yn darparu ei lluniaeth cyn bod yn rhywyr,[3] ac fel y cwnningod yn adeiladu ar y graig, ac fel locustiaid yn cytuno i ymdrech ynghyd, ac fel y pryf coppyn gwael yn dal ei gafel ar air y bywyd, fel y gallont felly aros. ymhlas y brenin nefol. Ar rhai hyn a wneir mor ddiddig na all dim i cyffroi, mor isel na all dim i balchio, mor hyfryd na all dim i tristhau, mer sobr na all dim i

  1. Es. lx. 8.
  2. Diar. xxx. II, 12, &c.
  3. Diar xxx. 24, &c.