Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffoli, mor ddiflin na all dim i cloffi, mor bur na all dim i halogi, mor rhagorol na all neb fynd tu hwnt iddynt, mor ddwys na all dim gloddio danynt, mor sylfaenedig na ellir i siglo, mor blantaidd na ellir eu cyfrwyso, mor agored na ellir i cau, mor weddaidd na chaiff neb gamair ganddynt, mor isel na ddichon un gwynt moi hyscwyd, mor uchel na all un meddwl naturiol moi cyrhaedd, mor gyfrwys ar seirph, ac mor wirion ar colomennod. Ac ymhellach, mae rhai o honynt a allant ddywedyd (drwy râs) i bod nhwy yn marw i'r byd ymma, ac er hynny yn byw byth, yn llai na dim. ynddynt eu hunain, ac yn fwy na'r byd yn ei gwreiddyn; ar y dibin beunydd, ac er hynny yn sefyll; heb wybod dim ynddynt ei hunain, ac yn deall pob peth yn Nuw; yn llawn tristwch, ond yn mwynhau canwyll llawenydd digymmar; yn ymdaflu mewn tonnau, ond yn sicr wrth yr angor; yn gwrando ar bawb, heb gredu un dyn, ond yn chwilio pob peth; yn edrych ar y canghennau, ond yn byw yn y gwreiddyn; yn rhodio yn heol y byd yn yr enaid, ond yn ymgadw ym Mhlas Duw yn yr ysbryd; yn llafurio yn wastadol, ac er hynny yn gorphwys; yn ddistaw ar y ddaiar, ac er hynny yn dystion i'r gwir; yn llawn o feddyliau, ac megis heb feddwl am ddim; yn cael câs gan bob cnawd, a chariad gan bob ysbryd da; yn ymdrech a'r holl gythreuliaid, ac yn ymgaredigo ag angelion Duw; yn clywed mwy o lais y byd nag a garant, a llai o leferydd y Tad nag a fynnent; yn chwilio gwaelod crefydd, ac yn ymddangos ar yr wyneb yn ddiragrith mewn daioni; yn ymbriodi a doethineb Duw, ond etto heb i mwynhau yn hollhawl. Ac er amled ei pechodau, yn dyner eu cydwybodau; yn waeth nar gwaethaf yn ei golwg ei hunain, ac yn gystal ar gorau yn mantell yr Oen; ac yn debyg i'r gwynt anolrheinadwy, ydynt yr hyn ydynt drwy ffafr y Goruchaf. O! bydd un o honynt.

Er. Mae'r rhai'n wedi myned ymhell. Ond dangos i mi pa beth y mae'r gwan yn ei mysg yn ei ddywedyd?

Col. Mae gweiniad yn sicr ym mysg ffyddloniaid, fel y mae ŵyn ymysg defaid, a thosturus yw gwrando