Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

duon, tanllyd, yn farw heb fyw, yn fyw heb farw, yn dragwyddol. Ond ni all yr ail angau niwed i'r ailenedig, ac nid oes dafod angel a all gyfrif yr holl drysorau sydd ynghadw yn Nuw cyn dechreuad y byd i'r enaid hwnnw. Ond efe ai cenfydd ac ai caiff,1 ai waith ef fydd i cyfrif ai mwynhau yn dragwyddol. Wele'r awron, dymma'r felldith a'r fendith. Wele, dymma fynydd Ébal, a mynydd Garizim. Dymma angau, ac fel dymma fywyd. Dewis di, O ddyn, fywyd ac nid angau.

Er. Dywaid i mi, Pa fodd y cymmerai afel ar y bywyd?

Col. Mae'r addewid yn perthyn i ti wrth dy henw, os cedwi afael ynddi. Dy enw di (wrth naturiaeth) yw, Drygddyn, Anuwiol, y pechadur ffiaidd, creulon, carcharwr dall, byddar; ir rhain, wrth ei henwau yn yr yscrythur, y mae gair yr addewid. Ie, er bod yr enaid yn wan heb allel cymryd gafael ar y cyfammod, fe gymmer cyfammod Duw afael ar yr enaid. Canys yn enw'r Mab y caiff y cenhedloedd ymddiried. Ac os dywedodd ef y cai di ĺynu yn y Mab, beth er dywedyd or gelyn na chai di? Nid gair y gelyn a saif.

Er. Attolwg, dangos i mi beth yw'r cyfammod newydd?

Col. Cytundeb rhwng Duw ai Fab dros ddyn, a rhwng Duw a dyn drwy waed yr Oen. Cariad yw Duw ac ewyllys da at ddyn. Ac er darfod i ddyn i adel ef, a dewis y cythrel yn dywysog iddo, yn ysbryd y byd mawr ymma, etto fe a glywodd Duw arno gymryd i Fab (ai galon anwyl) oi fonwes, ac fe ai rhoddodd i farw (fel gwenhithen yn y ddaiar)5 i borthi llawEr. Rhodd fawr annrhaethol yw Christ, a rhodd fawr yw llaw ffydd iw dderbyn; ni all neb i phrynu, ond fe all y tlottaf i derbyn. Llawer a ddywedir ynghylch y cyfammod newydd, ac am hynny ni ddy. wedafi ond hyn yr awron: Mai drwy rinwedd hwn y mae'r pechadur yn eiddo Christ, a Christ yn ei eiddo

1 I Cor. ii. 9. 2 1 Tim. i. 13. 3 Rhuf. iv. 5; Dat. iii. 17, 18; Mat. xii. 21. 4 I Ioan iv. 10; Rhuf. v. 8. 5 Ioan xii. 24. 6 Rhuf. viii. 32; 10; Esay lv. 1.