yntau: mae Duw yn ymroi drwy Ghrist i ddyn, a dyn yn rhaid iddo ymroi drwy Ghrist i Dduw. Ac felly mae pob peth ar sydd gan Dduw, oll yn oll, yn eiddo dyn, ac eiddo dyn pechadurus, sef ei holl ewyllys ai feddyliau yn eiddo Ysbryd Duw. Eiddo fi (medd y Tad wrth Ghrist) yw'r eiddot ti. Ac medd yntau wrth y pechadur, Eiddo fi yw holl eiddo'r Tad, ac eiddot ti yw fy eiddo fi, am heiddo fi wyti, O ddyn! Myfi a'th brynais. Rhaid i mi dy gael a'th gymryd, a rhaid i tithau gael ffydd gennifi, i'm cael ac i'm cymryd innau. Dymma swm y cyfammod newydd.
Er. Ond beth yw'r ffydd ymma y sonir am dani?
Col. Ysbrydoliaeth ryfeddol, nid yn unig i gredu mai'r Iesu yw Christ, ond hefyd mai'r Christ ymma yw Anwylyd, a Brenin, a Bywyd dy enaid ti: a darfod i'r Iesu farw drosoti, i fyw ynoti, ac i'th ddwyn yn ddioed at Dduw, i'r gwreiddyn yn y drindod nefol; o'r hwn yr ehedodd dyn allan drwy gwymp Adda. Pan fo'r enaid yn canfod hyn iddo ei hun, ac yn cynnwys hyn ynddo ei hun, dyna ddyn yn credu ychydig. Dyna ganwyll yn dechrau goleuo. Ni ddiffoddir moni.
Er. Ond pam yr wyti mor fynych yn dywedyd mai Christ yw calon Duw'r Tad?
Col. Am mai ef yw bywyd, a dirgelwch, a doethineb, ac anwylyd, a chyntaf a diwaethaf, a phennaf ei Dad5 (fel y mae calon mewn dyn). Ac nid oes yn ei galon ef ond ewyllys da tuag at bawb, heb ewyllysio fod neb yn golledig. Er hynny, pan wnelo dyn ddrwg yn erbyn Duw, mae fo yn barod i feddwl yn ddrwg ac yn galed am Dduw, ac nid am dano ei hun, fel ped fai'r Goruchaf ar y bai, ac nid dyn.
Er. Er i ti ddywedyd mai da yw Duw, nid wyfi yn credu nad oes digter ynddo tuag attaf fi?
Col. At dy gnawd y mae digter, a gwir yw hyn, Rhaid i ti adel iddo ddifa dy gnawd, rhag ith gnawd ti ddifa dy ysbryd; ond at dy ysbryd nid oes ond cariad. A oes dim tywyllwch yn yr haul? neu eisiau ar berffeithrwydd? A wnaeth Duw niwed i ti erioed? Ond 1 Can. ii. 16 2 Ioan xvii. 6, 10. 3 Eph. ii. 8. 4 Ioan xx. 28; I Pet. iii. 18. 5 Ioan i. 18; 1 Cor. i. 24. 6 Ps. xcix. 8.