Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr y Tri Aderyn.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oddiwrtho ef y cefaisti bob daioni?1 Ond efe a'th achubodd di oddiwrth lawer perigl? Ond hîr y cydddygodd ef a'th di,2 er i ti boeri dy bechod beunydd yn ei wyneb ef? Ond efe a roddes y byd, a'i bobl, a'i Fab, a'i Fibl, o'th flaen di, a llawer rhybudd cariadus i ti? A wyti (wedi'r cwbl) yn tybied mai meistr caled yw? Nid yw fo yn ceisio gennit ti ddim ond y peth sydd dda ar dy les dy hunan. Dywaid dithau fel y dywedodd gwraig Manoa,3 Pe buase Duw ar fedr ein lladd ni, ni buase fo yn gwneuthur cymaint drosom ni. Nid amser yw hi yr awron i ddigalonni. Wele, mae'r dydd yn codi yn ddisclair, a'r seinctiau yn gwaeddi Hallelujah, ar pechaduriaid yn deffroi, ar anifeiliaid drwg yn rhedeg i'w llochesau, ar blodau yn tarddu, ar haf mawr yn agos. Cyfod tithau i fynu yn galonnog; roedd gan Dduw feddwl da attat ti pan ordeinie ef i ti gael byw yn y fath amser a hwn. Ni wyddost ti nad oes gan Dduw ddefnydd mawr mewn cariad iw wneuthur ath di yn dy genhedlaeth. Gwir yw y mynnai diafol i ti feddwl yn ddrwg am Dduw, i fod ef yn dy gashau di, fel y mae fo ei hunan. Ond cofia i Dduw gymryd gafael, nid ar natur angelion ond ar natur dynion, yn Hâd Abraham, ac nid yn hâd Luciffer. Dywaid ti yn dy galon, Drwy nerth Christ, tra fyddwyf byw, mi feddylia'n dda am Dduw. Er iddo fy lladd i, mi a lynaf wrth ei draed ef.5 Ac os daw meddwl i fewn, fel pellen danllyd, oddiwrth ddiafol, tafl hi yn fuan allan eilwaith at ei thad, ac yno nid dy eiddo ti ond eiddo'r gelyn yw'r fath feddyliau diffaith a'r rheini. Nid yw Satan ond fel ceiliagwydd gwrthwyneba fo yn dy galon, ac fe a ddiangc oddiwrthyt. Swm dy holl ddlêd ti yw meddwl yn dda am Dduw, ac yn ddrwg am dy feddwl dy hunan; canys daioni yw ef, a nyth drygioni wyt tithau. Gwna hyn nes i ti garu Duw yn anwyl ddigon, ath gashau dy hunan yn anghymodlon fel y dylit.

Er. Ond yr wyfi yn clywed beunydd ryw sŵn ynof, mai cyfiawn yw Duw, mai cyfyng yw'r porth nefol, mai 1 Job xxxvi. 23. 2 Ex. xxxiv. 6, 7. 3 Barn. xiii. 23. 4.Heb. ii. 16. 5 Job xiii. 15. 6 Iago iv. 7.