Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn enwedig yn y Gymraeg. Fe fydd hynny yn bechod—ond gwaeth gennyf fi y Delyn na dim, am nad oedd ond benthyg; ac am fy mod yn hysbys ei bod yn cynnwys eich llafur, a'ch difyrwch, dros amryw flynyddoedd; ond byddwch esmwyth, a chymmerwch gysur; nid wyf fi mewn ofnau yn y byd yn eu cylch, ac nid oes gennyf ddim anobaith, na gwan—galon, na byddant yma cyn pen mis; ac os byddant, bid sicr i chwi gaffael y Delyn pan gyntaf y bo modd i'w gyrru hi. Dyma i chwi holl hanes y trwstan, a chymmaint ag a wn i o hanes y Delyn.

Dacew'r Llew wedi myned adref er ys ennyd, fal y gwyddoch, ac ni chlywais air oddiwrtho fo na'i nai etto. Mae caniad Arglwydd Llwydlo, yn Lladin, yn barod er ys mis, a'r Gymraeg agos wedi ei gorphen, a phan orphenir chwi a'i cewch, os gwiw fydd gennych eu derbyn.—Doe y cefais lythyr o'r Navy Office: y mae y Llywydd Mynglwyd yn iach lawen, ac yn dywedyd i mi fod y Penllywydd o Gors y Gedol wedi dyfod i Lundain, ac y bydd yn un llabi y'nghadair y Cymmrodorion y seithfed o Ionawr nesaf; ac y mae i minnau ddyfyn i ymddangos o'i flaen, dan boen dioddef fy niraddio o freintiau ein hardderchog Gymdeithas, oblegid ein bod i ddewis swyddogion y diwrnod hwnnw am y flwyddyn rhagllaw; ac oni bai fy mod yn rhy bell, sef 10 neu 12 milltir, odid na byddwn ysgrifennydd annwiw i'r Gymdeithas. Ond bellach gadawch i mi roi i chwi ryw fesur o'm hanes presennol. Yr wyf yn byw mewn lle (fal y gwelsoch) a elwir Northolt, yn Offeiriad tan Dr. Nichols, Meistr y Deml (Master of the Temple) yn Llundain. Mae'n rhoi i mi 50 punt yn y flwyddyn; lle digon esmwyth ydyw'r lle am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond 8 neu 9 o ddyddiau gwylion i'w cadw drwy'r flwyddyn, a chan nad ydyw'r plwyf ond bychan, nid yw pob rhan o'r ddyledswydd ond bychan bach; am hynny mwyaf fyth a gaf o amser i ysgrifennu i'm Cymdeithas, a phrydyddu, &c. &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chant hwy weled dim nes ei berffeithio.

Our general heads of enquiry are, you know, very extensive. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddelig, ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac y'mhell y bwyf onid yw