Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfryw enghreifftiau, ond y maent genyf i'w cael os bydd galw am danynt; a chan y bwriadaf, o anghenrheidrwydd, o herwydd byrdra amser i ysgrifenu yn helaeth, ddilyn y cynllun hwn gyd 'r ysgrifenwyr eraill; caiff yr esgusawd hwn dros adael allan yr enghreifftiau sydd genyf i gynal fy sylwadau, wasanaethu iddynt hwythau yr un modd. Gellid meddwl ei fod braidd yn methu ychydig yn nghadw i fyny gysondeb y cymeriad, unwaith, yn Mrs. James a Jane ei morwyn. Yr ydym yn edrych ar Mrs. James yn wraig onest, gywir, ddianwadal; a Jane yn forwyn ffyddlon, synwyrol, egwyddorol; ond yn yr enghraifft y cyfeirir ati, cawn Jane yn dyfeisio rhyw druth gwan a thwyllodrus i gael ei meistr o'r dafarn, gan apelio at esiampl Michal yn twyllo ei thad i guddio Dafydd, "heb hyny," ebe hi, "beth a wnaethem ni am ei Salmau!" Dangosir Mrs. James hefyd yn ewyllysio y twyll yn ddirgelaidd yn ei meddwl am y gallai gadw y forwyn rhag deall hyny.

Teimlir fod y gweithrediadau a'r naws cymdeithasol a ddengys y traethawd, wedi eu cyfaddasu at ddosbarth uwch na 'r cyffredin ar y cyfan, ac felly heb gyffwrdd yn ddigon tarawiadol ac uniongyrchol â hynt y werin feddwol. Heblaw hyny, y mae yn estronol, i raddau, i Genedloldeb Cymreig, trwy y Saesneg teuluaidd, a welwn ei fod mor gynhenid i'r arwr a'i gymdeithion. Modd bynag, mae yn gyfansoddiad gwych, bywiog, a chelfyddgar, ar y cyfan; yn dangos fod yr awdwr yn meddu athrylith a galluoedd prydferth; a llawer o fedr a deheurwydd at gyfansoddi yn briodol yn y dull neillduol hwn.

2. Teitl y Novel nesaf i sylwi arno, yw "Jeffrey Jarman," gan ei nai "JARMAN JEFFREY JERVIS;" amlygir yn y cyfansoddiad hwn athrylith gref, a digon o dalent