Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan gariad gŵr a thad; a chlywyd ef yn dweyd un diwrnod, wrth Walter M'c Intosh, wrth son am ei ddedwyddwch, nad oedd modd iddo roddi darluniad cywirach o'i deimladau wrth weled ei blentyn ar fraich ei mam, nag a roddodd Coleridge:—

"My slow heart was only sad when first
I scanned that face of feeble infancy;
For dimly on my thoughtful spirit burst
All I had been, and all my babe might be!
But when I saw it on its mother's arm,
And hanging at her bosom (she the while
Bent o'er its features with a tearful smile),
Then I was thrilled and melted, and, most warm,
Impressed a father's kiss; and all beguiled
Of dark remembrance, and presageful fear,
I seemed to see an angel's form appear—
'Twas even thine, beloved woman mild!
So for the mother's sake the child was dear,
And dearer was the mother for the child."

Aeth tair blynedd o ddedwyddwch teuluaidd a llwyddiant bydol dros ben Llewelyn Parri a'i eiddo. Y mae yn awr hoff—nis gellid ei gael. Enillodd ei sobrwydd yn ŵr ac yn dad; a gwell priod a rhiant—mwy gofalus a ei lwyddiant, a'i ymddygiadau gofalus ato 'i hun, ei deulu, a'i eiddo, gymeradwyaeth a pharch cyffredinol. Daeth yn ŵr mawr a dylanwadol dros ben. Ystyrid ef yn dywysog y fro—prisid ei farn fel deddf—mawrygid ei gyfeillgarwch gan hen ac ieuanc, boneddig a gwreng—caffai fynedfa rwydd i balasau boneddigion, ac ni chrynai'r un hen wraig rhag ei drem—edrychid arno gyda syniadau aruchel a charedig gan dlawd a chyfoethog.

Mrs. Parri, hefyd, a gerid fel yntau. Ystyrid hi yn anghraifft o hawddgarwch, diwydrwydd, callineb, b, a rhinwedd, gwerth ei hefelychu gan uchel ac isel. Erioed ni welwyd teulu dedwyddach. Pe buasai pob teulu yr un fath, buasai'n anhawdd credu fod y fath beth a chwymp dyn wedi cymeryd lle erioed. Braidd y gallasai Adda ac Efa fod yn ddedwyddach yn eu cyflwr o ddiniweidrwydd, ond yn unig fod Mrs. Parri yn teimlo math o ofn yn ei mynwes, rhag y byddai i'r gwydraid rheolaidd o wirod a yfai ei gŵr gael effaith i'w arwain i yfed ychwaneg. Byddai hyny weithiau yn taflu damp ar ei chysuron penaf. Tybed nad oedd rhyw sail iddi hi ofni hyn? Nid oedd gan Morfudd Parri y gradd lleiaf o ffydd yn yr egwyddor gymedrol; ond dywedai wrthi ei hun, "os oes yr un dyn dan haul a fedr gadw 'i hun yn sobr, ar yfed ychydig yn awr ac eilwaith, Llewelyn yw hwnw."