Gyda thoriad gwawr boreu dranoeth, fe ganai'r fronfraith mor ber ag arferol ar frig y goeden tu cefn i'r tŷ; ond Och! gyn lleied o gydymdeimlad oedd yn nghalon Morfudd Parri â chân y perorydd adeiniawg! Yr oedd calon y wraig addfwyn wedi ei thaflu o'i lle. Pa ryfedd? Onid oedd hi newydd dreulio noson o ddysgwyl wrth wr meddw, am y tro cyntaf erioed? Ond gwyn fyd mai'r tro diweddaf fuasai! Ond waeth heb nag adeiladu cestyll o obeithion—i'r llawr y maent yn dyfod yn chwilfriw.
Tua chanol dydd, dranoeth ar ol y lecsiwn, dychwelodd Llewelyn gartref. Ceisiodd ymddangos mor sad ag y gallasai. Ymdrechai hefyd ymddangos yn siriol. Gwnaeth amrywiol esgusodion dros aros o'r cartref am noson gyfan. Cymerodd y plentyn ar ei lin—cusanai hi, a gwasgai hi at ei fynwes mor wresog ag y gallai ar y pryd. Canfyddodd Myfanwy bach yn ebrwydd fod rhyw arddangosiad o gywilydd yn llechu yn nghongl llygad ei thad; gwnaeth allan yn ebrwydd hefyd fod rhywbeth ar ei wynt na fyddai arfer a bod. Yr oedd y beth bach yn rhy ieuanc a difeddwlddrwg i ddyfalu beth oedd yr achos o hyn. Ond nid oedd mor hawdd cau llygaid y fam. Canfyddodd honno yn ebrwydd yr achos o'r cyfnewidiad yn edrychiad ac ymddygiad ei gwr—gwyddai mewn eiliad mai wedi bod yn meddwi yr oedd.
Ond ni chymerodd Morfudd arni wrth Llewelyn ei bod yn drwgdybio dim. Gwenai arno gyda 'i charedigrwydd arferol; gan obeithio, os oedd ei gŵr wedi dygwydd llithro y tro hwnw, na wnai mo hyny byth drachefn.
Oh,'ngwas anwyl i!" meddai, "mae'n dda genyf eich gweled! Ofnais fod rhyw ddamwain wedi dygwydd, wrth eich bod yn aros mor hir heb ddyfod gartref; a phenderfynais ddyfod i'r dref i chwilio am danoch y prydnawn yma. Ond diolch eich bod wedi dyfod yn fyw ac yn iach!" "Ho, na, 'chymrodd dim annymunol le, Morfudd," ebe Llewelyn, gan geisio edrych yn ddidaro "dim ond fod y frwydr yn yr etholiad wedi dygwydd troi allan yn boethach nag y dysgwyliais i, ac i ni fethu cloi pethau i fyny'n briodol hyd nes oedd yn rhy hwyr i mi ddyfod gartref neithiwr."
Gadawyd i'r peth basio felly am y tro.
Ond, y mae'n syn meddwl y fath rym sydd gan ddiodydd meddwol ar ddyn, pan unwaith yn ymollwng i'w hyfed. Y mae pryf y gwirod, pan unwaith y sefydla ei lygad ar ei ysglyfaeth, yn rhwym o effeithio hudoliaeth mwy cyfareddol na holl swyn y rattle-snake na'r boa constrictor