Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phurdeb ei ddoniau deallol—boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad—ei grebwyll chwareüus—ei barch i'r hyn oedd fawreddog, arddunol, a phur! Cafodd yn eu lle edrychiad bwystfilaidd—meddwl dŵl a marwaidd—ymddygiadau celyd a rhyfygus syniadau bâs a llygediga hoffder parâus o'r hyn oedd yn ddinystr iddo 'i hun, yn warth i ddynoliaeth, ac yn gas gan Dduw!

PENNOD XIX.

DYGODD meddwdod parâus Llewelyn Parri annedwyddwch diail i'w deulu. Bygythiai tlodi ymosod ar Brynhyfryd hefyd. Yr oedd y gwr wedi colli rhai cannoedd o bunnau yn ddiweddar mewn rhedegfeydd ceffylau yn yr ardal. Betiodd bum' cant o bunau ar droed un ceffyl, a chant ar un arall—collodd y ddau, er mawr siomedigaeth Llewelyn, yr hwn, felly, oedd dan orfod i fforffetio chwe' chant o bunnau am ei ynfydrwydd.

Heblaw hyny, yr oedd yn ystod y deuddeng mis diweddaf, heb dalu y sylw lleiaf i'w fferm; a chanlyniad naturiol yr esgeulusdod hwnw oedd gwneyd i honno fod yn ddifudd. Nid oedd Morfudd Parri yn alluog i edrych ar ol dim; o herwydd iddi gael ei dwyn yn ddiweddar i'r esgoreddfa, ac yn parâu yn wael iawn. Ond pa mor wael bynag oedd, ychydig, os dim, o gydymdeimlad a ddangosai ei gŵr tuag ati. Nid elai braidd byth i'w hystafell i ofyn pa fodd y byddai, ac anaml iawn y deuai'n agos i'w dŷ. Yn wir, ni fu yn agos i'r fan am yr ychydig fisoedd diweddaf, ond pan ddeuai yno i gymeryd rhywbeth ymaith i'w werthu, er mwyn cael arian i foddio ei drachwant. Yr oedd y ddau geffyl, ac un fuwch wedi eu cymeryd ymaith eisoes, a'u gwerth wedi eu llyncu gan Llewelyn.

Aeth i dynu cheque ar ol cheque ar yr ariandŷ heb ddodi yr un swm yn ol gymaint ag unwaith. Gwarchod pawb! pa beth oedd i ddyfod o hono ef a'i deulu? Cwynai nad oedd y fferm yn troi dim ennill iddo; ac eto nid oedd yn edrych dim ar ei hol, nac yn awdurdodi neb arall i wneyd. Cafodd flas ar chwareu cardiau, ac amryw fathau eraill o chwareuon pechadurus a niweidiol.

Un diwrnod, efe a anfonodd at ei arianwr i ofyn am ddeg punt. Ond yr oedd eisoes wedi codi mwy o bum punt nag oedd yn dygwydd iddo. Felly, anfonwyd ei genadydd yn ol heb arian. Cynhyrfodd hyn dipyn arno.