Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyddai na roddai neb fenthyg arian i ddyn mor wamal a meddw ag ef; a gwyddai hefyd nad allai Gwen roddi yr un bunt iddo heb yn wybod i Mr. Powel, dan awdurdod pa un yr oedd hi'n dymuno parâu i aros. Ac fel y noddfa ddiweddaf, efe a benderfynodd wneyd cais ar haelioni un ag y bu iddo wneyd gweithred o garedigrwydd âg ef lawer gwaith, a'r hwn oedd yn awr yn meddu digon o arian wrth law—Walter M'c Intosh. Aeth ato, a gofynodd am fenthyg pum' cant o bunnau iddo, yn ngwystl ei stock. Gwrthododd hwnw roddi dim iddo tuag at dalu dyledion ag y bu iddo amdoi ei hun ynddynt mewn canlyniad i fyw mor afradlon.

"Buaswn yn rhoi eu benthyg yn rhwydd," ebe Walter, "pe cawswn y lle lleiaf i gredu nad aech i'r fath gyflwr drachefn. Ond pe y tynwn chwi allan o'r trwbwl yma, ni fyddai hyny yn ddim amgen na gohirio tipyn ar ddydd eich dirywiad yr ydych mor ansafadwy a dwfr!"

"Walter, coeliwch fi," meddai Llewelyn Parri—" os bydd i chwi wneyd y drugaredd hon a mi, chwi gewch weled y trof o hyn allan i arwain bywyd hollol wahanol. Rhoddaf ffarwel tragywyddol i bob math o fetio a chwareu damwain.

"Wel, ar yr amod yna, hidiwn i ddim llawer a rhoi nodyn i chwi dan fy llaw am bum' cant o bunnau, i'w talu yn arian i chwi yn yr ariandŷ yn mhen yr wythnos—ond ni seiniaf fy enw wrtho tan fydd yr wythnos wedi dyfod i ben."

"Pw! seiniwch o rwan, dyna lanc da. Bydd y giwed wedi syrthio arnaf fel haid o locust cyn y daw yr wythnos i ben; ac fe wnai pum' cant fwy o les i mi yn awr—ar law —na mil yn mhen yr wythnos."

"Yr wyf wedi enwi fy nhelerau, ac nid wyf am gyfnewid fy mwriad!" meddai Walter. " Y mae arnaf eisiau gweled a fedrwch chwi gadw eich hun yn glir â'r haid sydd yn barod i'ch lyncu am un wythnos. Ond cofiwch, Llewelyn, mai er mwyn Gwen yr wyf yn addaw gwneyd y drugaredd hon â chwi. Y mae eich bywyd meddw a phenrydd yn gwneyd i'ch chwaer gurio ymaith fel pe bai mewn darfodedigaeth. Yr ydych yn ei lladd. Ond, byddwch sobr am wythnos, ac mi a roddaf fy enw yn gyflawn wrth y nodyn yma," ychwanegai, gan estyn darn o bapur ysgrifenedig i Llewelyn" ac fe delir y pum' cant i chwithau."

"Diolch i chwi, fy anwyl gyfaill!" meddai Llewelyn, gan wasgu llaw Walter yn garedig, a myned ymaith.

Y fynyd gyntaf y cafodd Llewelyn Parri y nodyn i'w