i mi gael iawn mwy na hynyna. Cofiwch eich bod yn fy ngafael i yn awr!"
"Pa beth y mynech i mi ei wneyd?" Gofynai Llewelyn, â'i lygaid yn fflamychu gan gyffro.
"Wel, mi a faddeuaf y weithred, a'r ddyled hefyd, os bydd i chwi gael gan Gwen dderbyn fy nghynygion. Y mae hi, fel y gwyddoch, yn gwrthod gwneyd dim byd â mi, er i mi ei charu mor ddiledryw am flynyddoedd. Ni's gallaf fyw hebddi yn hwy; a rhaid i mi un ai ei chael hi yn wraig, neu ynte rhaid i mi eich cael chwi yn garcharor?"
"Walter!" llefai Llewelyn, "Pa mor bell bynag y mae fy meddwdod wedi fy ngyru oddi ar lwybr dyledswydd, yr wyf eto heb fyned mor bell fel ag i fethu gweled eich bod yn ymddwyn yn debycach i fradwr nag i garwr. Ai dyma yr hyn a elwch chwi yn gariad? A yw ymddygiad fel hyn yn un boneddigaidd, teg, dynol, a gonest?"
"Pwy sy'n son am foneddigeiddrwydd, tegwch, dynoldeb a gonestrwydd?—ai ffugiwr enwau ei gymydogion? Ond yr wyf wedi dweyd fy mwriad, ac yr wyf am sefyll ato! Cymerwch chwithau eich siawns!"
"Cymeryd fy siawns a wnaf!" meddai Llewelyn, a rhuthrai allan o'r ystafell.
Dichon fod y darllenydd yn methu cysoni ymsyniad presennol Llewelyn o dynerwch a thegwch hefo 'i ddull annynol a garw at ei wraig heddyw'r boreu. Ond yr unig eglurâd allwn ni roddi ar y pwnc yw, ddarfod i ddymuniad cythreulig Walter M'c Intosh, o'i orfodi dan boen carchariad, i fynu cael gan Gwen gydsynio i fyw hefo'r dyn a gasai, ddeffro tipyn ar ei hen serchiadau. Ond fe ddaeth syniadau eraill i'w feddwl yn awr. Ymresymodd fel hyn âg ef ei hun gyn gynted ag yr aeth allan o wydd Walter:
"Yr wyf yn ddyn colledig! Y mae'r dl wedi fy nghael i'w rwyd! Yr wyf yn sefyll rhwng dau ddibyn erchyll—fy ngharchariad fy hun ac annedwyddwch fy chwaer. Ond pa beth a wnaf? A fedraf fi oddef y drychfeddwl am i Llewelyn Parri, gŵr y Brynhyfryd i gael ei euogfarnu o godi arian trwy dwyll?—cael fy nyfarnu i ddeng mlynedd o alltudiaeth—fy ngwisgo mewn dillad carcharor—fy ngwallt wedi ei eillio, a heiyrn am fy nhraed a'm dwylaw! Na fedraf!"
Trôdd ar ei sawdl—aeth yn ol at Walter, a chytunodd âg ef i foddloni ei gais.
Anfonodd Llewelyn lythyr at Gwen, i erfyn arni ei gyfarfod ef mewn man penodol, am chwech o'r gloch y pryd-