nawn hwnw. Daeth yr eneth ddifeddwl-ddrwg yn yno yn ol ei gais. Pwy a all ddychymygu ei thrueni wrth glywed Llewelyn yn myned dros yr hyn a gymerodd le, a'r aberth yr oedd yn rhaid iddi hi ei wneyd o honi ei hun, neu i'w brawd fyned i'r carchar.
"Wel, Llewelyn!" meddai'r eneth anwyl— nid oes yr un gradd o gysur i mi i'w ddysgwyl yn y byd hwn. Yr wyf wedi ymgynefino a thrallodau; ac wedi dyoddef cymaint ar dy ran di, fel nad yw'n pwyso dim ar fy meddwl wneyd unrhyw beth a geisi genyf, drosot. Yr wyf yn casâu Walter fel anghenfil; ond mi a'i prïodaf er mwyn dy waredu di. Addewais wrth erchwyn gwely angeu fy mam bod yn ffyddlon i ti, ac mi fyddaf hefyd. Mi wnawn yr aberth yma yn siriol, pe y gwybyddwn yr effeithiai'r amgylchiad dychrynllyd hwn i ddwyn diwygiad sefydlog a pharâus yn dy fuchedd."
"Caiff fod felly—yn enw pob gallu yn y nefoedd a'r ddaear!" meddai Llewelyn.
"Fy mrawd!" meddai Gwen—"paid ag addaw dim ychwaneg; yr wyt wedi tori dy addewidion mwyaf cysegredig ormod o weithiau i mi allu dy goelio. Yr wyf fi am fyned adref yn awr, a gelli ddweyd wrth Walter fy mod yn barod iddo pan y myn. Y cwbl er dy fwyn di!"
Yr oedd braidd yn annichonadwy i fod dynol deimlo trallod mwy nag a deimlai Gwen Parri yn awr. Ond yr oedd un hefyd yn dyoddef, efallai, gymaint a hithau o herwydd marwolaeth Llewelyn Parri, sef ei wraig! Yr oedd Llewelyn hefyd yn anhapus ofnadwy yn awr. Teimlai yntau, am unwaith, effeithiau difaol ei fywyd afradlon—pwysai ei euogrwydd arno fel craig o frwmstan. "Oh!" meddai wrtho 'i hun—"Oh!" yr wyf yn adyn melldigedig. Y mae drosodd hefo mi yn awr. Y mae fy eiddo wedi myned —fy iechyd, fy enw da—calon fy ngwraig fy chwaer wedi eu tori—fy nedwyddwch teuluaidd wedi ei ddinystrio am byth! Yr wyf yn felldith i mi fy hun ac i bawb o fy nghwmpas. A Walter—yr wyt tithau wedi troi allan yr hyn yr ofnai fy mam a Gwen am danat! Oh! pa beth a wnaf!"
PENNOD XX.
Yr oedd yn noson oer, chwerw, yn mis Rhagfyr. Ah! druan o pwy bynag sy'n fyr o ddillad am y corph ac ym-