gael cyflwyno hyn o lythyr i ti er saled wvf. Nid ydwyf am ofyn i ti wneyd yr un addewid i mi; ond dymunwyf ddwyn ar gof i ti dy ymddygiadau o'r blaen. Yr wyf yn deall dy fod yn parâu i feddwi o hyd, ac wedi myned yn warth i'r ardal ac yn felldith i dy wraig anwyl, garedig, a rhinweddol. Bum yn dysgwyl, ar ol i fy nylanwad i fethu dy drin, y buasai'r addfwyn Forfudd yn gwneyd rhywbeth o honot; ond fe ymddengys fod swyn y gwirod yn fwy na dim arall.
"Pe baet yma yn awr, ti a gaet weled un arall o dy ferthyron. Caet weled llygad, ael, a boch geneth bedair-ar-ugain oed yn gwisgo arwyddlun angeu o achos meddwdod ei brawd. Aberth i ti ydwyf; rhoddais fy hun i fyny'n offrwm i'th gadw di o'r carchar ag y buasai'n drugaredd i ti erbyn hyn pe buasit ynddo. Cosbais fy hun â mwy o annedwyddwch nag y buasai raid i ti ddyoddef yn y ddaeargell dduaf. Yr wyf yn awr yn wraig i ddyn sy'n meddwl ei hun yn dduw; a'r hwn a gafodd genyt ti i ymrwymo i fy mherswadio i'w briodi, nid am ei fod yn fy ngharu, ond am nas gallai oddef y meddylddrych iddo ef feddwl am ddim a chael ei siomi. Yr wyf yn awr yn gaethferch i ddyn heb galon ddynol yn ei fynwes. I'th achub di, mi a orchfygais yr arswyd a deimlwn wrth feddwl bod yn wraig iddo, a sefais wrth ei ochr o flaen yr allor. Bum fyw gydag ef gan ymdrechu ei foddio yn mhob peth; ond ymddygai ataf fel gormeswr, ac nid fel gwr, nes y teimlwn fy nghalon ieuanc yn oeri dan fy mron. O'r diwedd, efe a flinodd arnaf. Wrth weled na wnai bryntwch, creulondeb, a meddwdod parâus dori fy nghalon, daeth i'r penderfyniad o fy ngadael. Yr wyf yn awr mewn lle dyeithr yn afiach ac yn dlawd. A Llewelyn, mae'n ddrwg genyf orfod dweyd, dy waith di yw hyn oll! Ni fuaswn yn dweyd mor blaen, oni bai fod pob tynerwch wedi myned yn ofer. Oh! fy mam, mi gaf ddyfod atoch chwi yn fuan bellach! Rhaid i mi ddim cywilyddio eich gweled—bum yn ffyddlon i'ch cais olaf. Os ydych yn gallu edrych i lawr dros ganllawiau Paradwys; y mae fy mochau tyllog, fy llygaid suddedig, fy ael brudd, fy ngwendid mawr, fy nghalon doredig—oll yn ddigon o brawf i mi fod yn ffyddlon! Llewelyn anwyl, gan Dduw na fuasit tithau wedi bod yn ffyddlon hefyd!
"Ond rhaid i mi ddiweddu—yr wyf yn rhy wan. Ond gad i mi dy rybuddio unwaith am byth: os wyt yn dysgwyl cyfarfod â dy fam, dy chwaer, a'th Farnwr, yn y dydd olaf, gyda gwên o groesaw, tro yn ol o'th ffyrdd drwg—dyro'r goreu am byth i bob math o ddïodydd meddwol, a gofyn am edifeirwch a maddeuant trwy Iawn Crist. Ond os wyt yn dewis clywed y geiriau ofnadwy, Rhwymwch ef draed a dwylaw, a thefiwch i'r tywyllwch eithaf,' yn cael eu swnio fel taranau o enau Duw uwch dy ben di—dos yn mlaen yn dy fuchedd lygredig nes y rhydd Angeu hyrddiad i ti i glorian barn.
Dy chwaer, GWEN."
Gyda fod Llewelyn wedi gorphen darllen, efe a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr fel coeden o flaen corwynt; a bu am chwarter awr cyn bod yn alluog i godi.
Clywyd curo wrth y drws. Deuai rhywun i fyny'r grisiau. Gofynai dyn wrth ddrws ystafell y llofft,—